Adroddiad Chilcot: Oedi yn 'sarhad'
- Cyhoeddwyd

Mae Simon Weston, y cyn-filwr fu'n brwydro yn Rhyfel y Falklands, wedi dweud fod yr oedi hir cyn cyhoeddi canfyddiadau ymchwiliad hir-ddisgwyliedig i ryfel Irac yn "sarhad i atgofion o bob un person fu farw".
Mae disgwyl i Syr John Chilcot gyhoeddi ei adroddiad ym mis Mehefin neu Orffennaf 2016, wedi dechrau ar y gwaith yn 2009.
Cafodd Mr Weston, o Nelson, Sir Caerffili, ei anafu'n ddrwg yn ystod y brwydro am y Falklands.
Dywedodd: "Mae ymchwiliad Chilcot wedi bod yn un o'r penodau gwaethaf o ymyrraeth wleidyddol i unrhyw ymchwiliad."
Mae'r Prif Weinidog, David Cameron, wedi lleisio ei rwystredigaeth am yr oedi ac mae arweinydd y blaid Lafur wedi dweud bod yr amser sydd wedi ei gymryd "yn mynd tu hwnt i fod yn hurt".
Mae'r ymchwiliad yn ystyried sut y daeth lluoedd arfog Prydain i fod yn rhan o'r ymosodiad ar Irac yn 2003, dan arweinyddiaeth yr UDA.
Dywedodd Syr John y byddai'r adroddiad, sydd yn ddwy filiwn o eiriau o hyd, yn cael ei gwblhau ym mis Ebrill cyn cael ei astudio gan swyddogion diogelwch.
Wrth siarad ar raglen Sunday Politics BBC Cymru, dywedodd Simon Weston, gafodd ei anafu ar long y Sir Galahad yn 1982: "Mae'n sarhad i atgofion o bob un person fu farw, i bob un teulu sydd wedi dioddef o achos anafiadau ac o achos marwolaeth y rhai roeddent yn eu caru draw yna."
Mae sylwadau'r cyn-filwr yn adlewyrchu barn a rhwystredigaeth teuluoedd milwyr am yr amser mae wedi ei gymryd i gyhoeddi'r adroddiad.
Ychwanegodd Mr Weston: "Os yw Mr Chilcot yn gallu edrych arno ei hun yn y drych yn y bore heb deimlo cywilydd, dwn i ddim, ond rwy'n credu y dylie fo."
- Mae Sunday Politics ar BBC One Wales am 12:20 ddydd Sul.