Pro12: Gweilch 36 - 3 Zebre

  • Cyhoeddwyd
GweilchFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mae'r Gweilch wedi cipio eu hail fuddugoliaeth o'r tymor yng nghystadleuaeth y PRO12 ar ôl trechu Zebre o 36-3 yn Stadiwm y Liberty.

Fe sgoriodd y tîm cartref chwe chais sy'n mynd â nhw'n uwch na Zebre yn y tabl.

Jonathan Spratt, Josh Matavesi ac Eli Walker sgoriodd geisiau'r hanner cyntaf, gyda Justin Tipuric, Walker eto a Sam Parry yn ychwanegu at y pwyntiau.

Fe giciodd Dan Biggar ddau drosiad gyda Sam Davies yn cael y llall.

Mae'r canlyniad am fod yn hwb i'r Gweilch cyn eu gêm gyntaf yng Nghwpan y Pencampwyr Ewropeaidd penwythnos nesaf yn erbyn Exeter Chiefs.