Tynnu sylw at gam-drin domestig ymysg pobl ifanc
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio'r cam nesaf yn ei hymgyrch i fynd i'r afael â cham-drin domestig ymysg pobl ifanc.
Nod 'Byw Heb Ofn' ydi canolbwyntio ar y themâu o ganiatâd a rheolaeth ym mherthnasau'r bobl ifanc.
Dangosodd ymchwil bod un o bob pum merch yn eu harddegau wedi dioddef ymosodiad gan gariad. Ond mae'r ymgyrch yn pwysleisio nad yw cam-drin yn gyfyngedig i ymosodiadau corfforol yn unig.
Fe fydd hi'n dadlau bod camdriniaeth emosiynol fel beirniadaeth gyson, ynysiad oddi wrth ffrindiau a theulu a rheoli ymddangosiad personol yn gallu bod yr un mor niweidiol.
Pobl ifanc rhwng 16 a 24 fydd yn cael eu targedu gyda'r ymgyrch yn dechrau drwy hysbysebu ar Facebook a Google.
Ymgyrch boster
Fe fydd 'na ymgyrch boster yn dilyn mewn 180 o safleoedd gwahanol ar draws Cymru, mewn llefydd fel bariau a chlybiau.
Yn ôl y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, y nod ydi targedu pobol sydd ddim yn ystyried eu hunain o fod mewn perygl.
"Gallai deall ymddygiad iach ac afiach mewn perthnasoedd helpu pobl ifanc i gael cyngor a chymorth yn gynharach neu atal ymddygiad dinistriol," meddai Leighton Andrews.
Dywedodd Rhiannon Williams, darlithydd theatr a drama ym Mhrifysgol De Cymru:
"Roedd y prosiect hwn yn bwysig gan ei fod yn galluogi'r myfyrwyr i drafod syniadau mewn perthynas â cham-drin domestig, ac i ddatblygu eu straeon perthnasol eu hunain a fydd, gobeithio, yn ennyn diddordeb pobl eraill o'r un oedran."