Achub dynes yn Eryri wedi iddi fynd i drafferthion

Cwm Idwal Image copyright Dudley Smith

Fe gafodd dynes ei hachub yn Eryri brynhawn dydd Sadwrn wedi iddi fynd i drafferthion ar ôl anafu ei phigwrn.

Bu'n rhaid i aelodau o dîm achub mynydd yr awyrlu yn y Fali a thîm achub mynydd Dyffryn Ogwen gydweithio er mwyn ei symud yn ddiogel o Gwm Idwal.

Doedd hofrennydd Gwylwyr y Glannau methu glanio oherwydd y tywydd garw, felly defnyddiwyd rhaffau i achub y ddynes o'r graig.