Bryn Terfel yn dathlu carreg filltir

  • Cyhoeddwyd
BT

Mae un o gantorion enwocaf y byd clasurol yn dathlu carreg filltir arbennig ddydd Llun.

Mae Bryn Terfel, y bariton o Bantglas yn dathlu ei benblwydd yn 50 oed.

Fe gafodd y mab fferm o Ddyffryn Nantlle ei eni yn 1965, ac ar ôl astudio yn Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes a choleg cerdd y Guildhall yn Llundain fe aeth yn ei flaen i droedio rhai o lwyfanau a neuaddau mwya'r byd.

Ychydig ddyddiau cyn ei benblwydd fe fu'n siarad mewn cyfweliad arbennig â BBC Cymru Fyw

Dywedodd Bryn Terfel wrth Cymru Fyw ei fod wedi mwynhau cael "cymryd rhan yn y gwahanol elfennau sydd 'na i berfformio, dros y blynyddoedd, boed hynny yn agor Cwpan Rygbi'r Byd yng Nghaerdydd yn 1999, perfformio ar raglenni teledu efo Tom Jones, chwarae rhan Wotan yn y 'Ring Cycle' yn Efrog Newydd neu yn cael y fedal i gerddoriaeth gan y Frenhines. Mae 'na bwysigrwydd i'r cyfan oll."

Fe fydd Mr Terfel yn treulio diwrnod ei benblwydd yn Monte Carlo yn perfformio'r opera 'Tosca'.