'Gwallgofrwydd' polisi e-sigarets, medd Ceidwadwyr Cymru
- Published
image copyrightGetty Images
Mae bwriad Llywodraeth Cymru i wahardd e-sigarets o fannau cyhoeddus caeedig yn wallgofrwydd yn ôl arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Andrew R T Davies.
Yn ôl Mr Davies byddai gwaharddiad o'r' fath tanseilio'r ymdrechion i ostwng y nifer sy'n ysmygu.
Mae o hefyd yn dadlau fod adroddiad diweddar gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr yn dangos fod e-sigarets 95% yn llai niweidiol na chynnyrch tybaco.
Ond yn ôl Llywodraeth Cymru tydi'r mesur ddim yn golygu gwahardd gwerthu e-sigarets nac yn atal pobl rhag eu defnyddio er mwyn rhoi'r gorau i smygu.
Dywedodd llefarydd fod y cynlluniau wedi'u seilio ar dystiolaeth ac yn cael cefnogaeth Cymdeithas y BMA ac arbenigwyr iechyd eraill.