'Chwaraewyr yn cefnogi Monk'
- Cyhoeddwyd

Mae golgeidwad Abertawe Lukasz Fabianski yn dweud fod gan chwaraewyr y clwb bob ffydd yn y rheolwr Garry Monk, er gwaethaf adroddiadau yn y wasg ei fod am gael ei ddiswyddo.
Colli 1-0 i Norwich fu hanes yr Elyrch ddydd Sadwrn, gan olygu eu bod yn gostwng i safle 14 yn yr uwchgynghrair.
Mae BBC Cymru wedi ceisio cysylltu â phrif swyddogion y clwb er mwyn cael ymateb i'r adroddiadau.
Ond wrth ymateb i'r sylwadau dywedodd Fabianski fod y chwaraewr yn llwyr ymddiried yn Monk.
"Bendant, does yna ddim dwywaith," meddai.
Mae canlyniad ddydd Sadwrn yn golygu mai dim ond un gêm mae Abertawe wedi ennill yn y gynghrair ers mis Awst.
Ond yn ôl WalesOnline, er bod penaethiaid y clwb yn bryderus am ganlyniadau diweddar mae nhw am roi mwy o amser i Monk.
Bydd nifer yn gweld gêm nesa'r Elyrch wythnos i ddydd Sadwrn yn erbyn Bournemouth fel un y mae'n rhaid i'r tîm ei hennill.