Ymosodiad: Heddlu yn arestio dyn
- Cyhoeddwyd

Collodd Gwynant Jones rhan o'i glust
Mae'r heddlu yn Aberystwyth wedi arestio dyn 24 oed ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol ar ôl ymosodiad mewn tafarn yn y dref.
Fe wnaeth Gwynant Jones o Fachynlleth golli rhan o'i glust ar ôl ymosodiad yn nhafarn yr Academy am 23:25 nos Sadwrn, 31 Hydref.
Mae Heddlu Dyfed Powys yn parhau i apelio ar unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw ar 101.