Rhybudd o law trwm mewn mannau
- Cyhoeddwyd

Llun llyfrgell o Gwm Idwal yn dilyn cyfnod o law
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd tywydd melyn '"byddwch yn barod" ar gyfer glaw trwm ar gyfer rhannau o ogledd a chanolbarth Cymru.
Yn ôl rhagolygon fe allai dros fodfedd (30mm) o law syrthio yng Ngwynedd, Powys a siroedd Conwy a Dinbych ddiwedd prynhawn Llun.
Yn dilyn glaw trwm dros y penwythnos mae'n debyg fod lefelau rhai o afonydd Gwynedd eisoes yn uchel.
Mae'r rhybudd tywydd ar gyfer 16:00 ddydd Llun.
Mae yna rybudd hefyd i yrwyr gymryd gofal oherwydd dŵr ar wyneb ffyrdd.