Dim post am y tro oherwydd ci
- Cyhoeddwyd

Mae rhai o drigolion pentref Ystalyfera wedi cael gwybod na fyddan nhw'n derbyn post am gyfnod yn dilyn digwyddiad gyda chi mawr.
Mae'r Post Brenhinol wedi gohirio mynd â'r post i Ffordd Zoar yn dilyn digwyddiad wythnos yn ôl.
Ar hyn o bryd, does dim sicrwydd y bydd y gwasanaeth yn ailddechrau cyn y Nadolig.
Dywedodd llefarydd ar ran y Post Brenhinol: "Gallwn gadarnhau ein bod wedi gohirio'r gwasanaeth post i'r ardal o amgylch Ffordd Zoar yn dilyn digwyddiad ddydd Llun diwethaf gyda chi mastiff mawr.
"Roedden ni'n ymwybodol o'r ci yn barod, ac ym mis Gorffennaf eleni fe ymatebodd y perchennog i gais gennym i osod blwch wrth giât yr eiddo er mwyn rhoi'r post yno heb orfod mynd i mewn i'r eiddo.
"Ond yna ddydd Llun diwethaf roedd y ci yn rhydd ar stryd gerllaw. Rydym wedi codi'r mater gyda'r heddlu, warden cŵn a'r cyngor lleol gan ofyn am gymorth i ddatrys y broblem, fel y gallwn ailddechrau mynd â'r post yno pan fydd yn ddiogel i'n staff wneud hynny.
"Diogelwch ein staff yw ein prif flaenoriaeth, a gohirio'r gwasanaeth post yw'r dewis olaf bob tro."
Wrth ymddiheuro i'w cwsmeriaid, dywedodd y Post Brenhinol y gall pobl sy'n byw yn y strydoedd dan sylw gasglu'u post o swyddfa'r Post Brenhinol ym Mhontardawe.