Crabb: Cyfle i 'drawsnewid' y gogledd
- Cyhoeddwyd

Y ffordd orau i "drawsnewid" gogledd Cymru yw drwy fanteisio ar gynlluniau'r llywodraeth yng ngogledd Lloegr, yn ôl Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb.
Bydd Mr Crabb yn dweud "na ddylai fod unrhyw gyfyngiadau ar uchelgais gogledd Cymru" wrth annerch y mudiad busnes Sefydliad y Cyfarwyddwyr.
Mae disgwyl i Mr Crabb ddweud: "Yng ngogledd Cymru, rydym wastad wedi edrych i'r dwyrain i Lerpwl a Manceinion er mwyn tyfu'r economi, cymaint â rydym yn edrych i'r de i Gaerdydd ac Abertawe.
"Y cynlluniau yng ngogledd Lloegr yw ein cyfle gorau i drawsnewid gogledd Cymru.
"Ond mae angen i'r gwleidyddion yng Nghaerdydd ddangos yr un hyder yng ngogledd Cymru ag y mae llywodraeth y DU wedi ei ddangos ym Manceinion drwy ddatganoli grym yno."
Bydd Mr Crabb yn ymweld â charchar newydd Wrecsam ar ôl ei araith. Hwn fydd carchar mwyaf y DU, gyda 2,106 o garcharorion.