Pro12: Dreigiau 12-19 Ulster
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Paul Marshall sgoriodd unig gais y gêm i Ulster
Roedd perfformiad cryf gan Ulster yn ail hanner y gêm yn erbyn y Dreigiau yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth i'r Gwyddelod ddydd Sul.
Mewnwr Ulster, Paul Marshall sgoriodd unig gais y gêm yn yr ail hanner, wrth i Paddy Jackson hefyd gicio 14 o bwyntiau.
Llwyddodd Dorian Jones i gicio tair cic gosb i'r Dreigiau, a daeth un arall gan Jason Tovey.
Fe wnaeth y Dreigiau roi pwysau mawr ar Ulster yn yr ail hanner, ond llwyddodd yr ymwelwyr i ddal yn gadarn a sicrhau'r pwyntiau.
Ulster yw'r tîm cyntaf i guro'r Dreigiau yn Rodney Parade y tymor yma.