Gwrthdrawiad Gwynedd: Dau yn yr ysbyty
- Cyhoeddwyd

Cafodd yr heddlu eu galw i'r A4087 ger cylchfan Y Faenol
Mae dau ddyn wedi cael anafiadau difrifol ar ôl gwrthdrawiad ym Mangor ddydd Sul.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad rhwng Seat Ibiza a Renault Megane ar yr A4087 Ffordd Caernarfon am tua 21:20.
Roedd rhaid torri'r ddau ddyn yn rhydd o'r cerbydau, ac yna fe gafodd y ddau eu cludo i ysbyty Gwynedd ym Mangor.
Roedd y ffordd ynghau tan tua 01:00 fore Llun, ac mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth gan unrhyw un welodd y gwrthdrawiad.