Dwyn £30,000: 'Heddlu wedi gofyn am gôd'
- Cyhoeddwyd

Mae gwraig dyn o Abertawe, sy'n honni bod plismyn wedi dwyn £30,000 wrth chwilio ei dŷ, wedi dweud bod un swyddog wedi gofyn am y côd i sêff.
Dywedodd Victoria Luben wrth Lys y Goron Caerdydd ei bod wedi clywed plismon yn dweud: "'Da ni mewn."
Mae'r Ditectif Sarjant Stephen Phillips, 47 o Abertawe, y Ditectif Gwnstabl Christopher Evans, 38 o Langennech, a'r Ditectif Gwnstabl Michael Stokes, 35 o Lyn-nedd, yn gwadu dwyn.
Dywedodd Mrs Luben ei bod hi wedi cael ofn pan ddaeth plismyn i chwilio'r tŷ ym Mhenlan ar 1 Ebrill 2011.
Wrth gael ei chroesholi, gwadodd bod ei gwr wedi ei hannog i ddweud celwydd am roi'r côd i'r sêff.
Dywedodd hefyd nad oedd hi'n ymwybodol bod gan ei gwr arian wedi ei gadw yno.
Mae Mr Phillips wedi ei gyhuddo o bedwar achos o ddwyn, ac mae Mr Evans a Mr Stokes yn wynebu dau gyhuddiad.
Mae'r achos yn parhau.