Michu yn gadael Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Michu

Mae'r ymosodwr Michu, 29, wedi gadael clwb Abertawe.

Roedd ei gytundeb yn ymestyn tan ddiwedd y tymor ond dywedodd y clwb y byddai'r Sbaenwr yn gadael yn syth er mwyn ceisio dod o hyd i glwb newydd ym mis Ionawr.

Ymunodd Michu â'r Elyrch am £2m o Rayo Vallecano a sgoriodd 28 gôl mewn 67 o gemau.

Yn dilyn anaf i'w ffêr yn 2014, aeth Michu ar fenthyg i Napoli yn yr Eidal, ond dim ond pump o weithiau chwaraeodd o yno.