Tân Romania: Claf yn Ysbyty Treforys, Abertawe
- Cyhoeddwyd

Mae un o'r bobl gafodd eu hanafu mewn tân mewn clwb nos yn Romania bellach yn cael gofal yn Ysbyty Treforys yn Abertawe.
Roedd y claf yn un o 12 gafodd eu hedfan i Brydain a Norwy dros y penwythnos i gael triniaeth.
Mae cyfanswm o 45 o bobl wedi marw ar ôl y tân yn ninas Bucharest fis diwethaf.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg bod un claf wedi ei gludo i'r adran losgiadau yn Nhreforys.
Er nad oedd y bwrdd iechyd am roi manylion, dywedon nhw bod y claf mewn cyflwr sefydlog.
Mae'n debyg bod y tân wedi ei gynnau gan dân gwyllt gafodd eu defnyddio yn ystod perfformiad yn y clwb nos.
Ddydd Sul, dywedodd llywodraeth Romania bod 30 o bobl yn dal i fod mewn cyflwr difrifol.
Fe wnaeth Prif Weinidog Romania, Victor Ponta, ymddiswyddo ar ôl i 20,000 o bobl brotestio'r wythnos ddiwethaf.