Dim rhaglen ddogfen am y Cynulliad
- Cyhoeddwyd

Fydd 'na ddim rhaglen ddogfen sy'n cymryd cip tu ôl i'r llen yn y Cynulliad Cenedlaethol, gan na wnaeth y blaid Lafur gytuno i fwrw 'mlaen â'r cynllun.
Roedd y BBC ac ITV wedi gofyn am gael cynhyrchu rhaglen am fywyd yn y swyddfeydd ym Mae Caerdydd yn y cyfnod cyn etholiad y Cynulliad yn 2016.
Fe ddywedodd llywydd y cynulliad, Rosemary Butler fod hwn yn "gyfle gwych" i hybu gwaith y Cynulliad, ond roedd yn awyddus i gael cymeradwyaeth yr holl bleidiau.
Ond dywedodd Llafur y gallai'r gwaith fod wedi "amharu yn sylweddol" ar staff.
'Siom enfawr'
Mewn llythyr i arweinwyr y pleidiau ddydd Llun, fe ddywedodd Rosemary Butler: "Y tro hwn, ac am nifer o resymau, fe fethon ni gael cymeradwyaeth unfrydol ac fe fyddwn ni felly yn rhoi gwybod i BBC Cymru ac ITV Cymru na fydd y prosiect yn bwrw 'mlaen."
Fe ddywedodd AC y Democratiaid Rhyddfrydol, Peter Black: "Ma'n siom enfawr fod plaid wleidyddol yn y Cynulliad wedi, i bob pwrpas, rhwystro'r cynllun."
Yn ôl Plaid Cymru, wnaethon nhw ddim gwrthod y syniad.
Roedd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r syniad hefyd, gan ddweud eu bod "yn siomedig" i glywed nad oedd modd cytuno ar gefnogaeth unfrydol.
'Cyfnod hynod brysur'
Fe ddywedodd llefarydd ar ran y blaid Lafur: "Wedi ystyried y mater yn ofalus mewn cyfarfod diweddar, fe benderfynodd aelodau Llafur na allen nhw gefnogi'r cynnig ar hyn o bryd.
"Roedd 'na deimlad fod y cynnig wedi ei roi ar fyr rybudd, heb fawr o fanylder, ac y byddai, o bosib, yn amharu yn sylweddol ar waith aelodau a staff o ddydd i ddydd, ac ar fusnes y cynulliad yn ystod cyfnod hynod brysur.
"Tra bo'r grŵp, wrth gwrs, yn croesawu cynlluniau i gynnwys y cyhoedd yng Nghymru yng ngwaith y cynulliad, mae'n ddrwg gennym ni na allwn ni gefnogi'r cynnig presennol".
Fe wnaeth y Cynulliad wrthod cais i ffilmio rhai o olygfeydd ffilm newydd James Bond, Spectre, yn y siambr, ond mae S4C wedi ffilmio rhaglen ddrama Byw Celwydd yno.
Rydym wedi gofyn am ymateb BBC Cymru.