£6m i wella cyfleoedd pobl ddi-waith dwyrain Cymru

  • Cyhoeddwyd
Canolfan byd gwaith
Disgrifiad o’r llun,
Nod y cynllun ydi gwella sgiliau pobl dros 25 oed sydd wedi bod yn ddi-waith am gyfnod hir

Mae'r Gweinidog Cyllid a Busnes, Jane Hutt, wedi cyhoeddi cynllun gwerth £6m i wella cyfleoedd pobl sy'n ddi-waith am gyfnod hir yn nwyrain Cymru.

Bydd y prosiect tair blynedd yn buddsoddi mewn sefydliadau arbenigol i wella sgiliau 3,400 o bobl dros 25 oed sydd wedi bod yn ddi-waith am gyfnod hir.

Sir y Fflint, Wrecsam, Powys, Sir Fynwy, Casnewydd, Caerdydd, a Bro Morgannwg fydd yn elwa o'r cyllid.

Bydd y Gronfa Cynhwysiant Gweithredol, sy'n cael cyllid o £3m gan yr Undeb Ewropeaidd, yn cael ei rheoli gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.

Gobaith Llywodraeth Cymru yw y bydd y cynllun yn helpu tua 1,000 o bobl i gael swydd, creu dros 1,300 o gymwysterau newydd a chefnogi dros 700 o bobl i gael hyfforddiant ac addysg.

Dywedodd Ms Hutt: "Bydd y buddsoddiad hwn gan yr UE yn cefnogi'r bobl hynny sydd fwyaf mewn angen ac mewn perygl o dlodi yn nwyrain Cymru, drwy ddarparu rhaglenni arbenigol a fydd yn eu helpu i oresgyn amgylchiadau anodd, gwella'u gallu i gael swydd, a'u helpu i fynd yn ôl i'r gwaith."