Ymchwiliadau i glinigau cosmetig ar gynnydd yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Mae ymchwiliad gan BBC Cymru wedi darganfod bod cynnydd wedi bod yn nifer yr ymchwiliadau i glinigau sy'n cynnig triniaeth laser cosmetig am eu bod yn osgoi cofrestru.
Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yw'r corff sy'n rheoleiddio'r diwydiant ac mae ganddyn nhw'r grym i archwilio llefydd sydd yn cynnig triniaeth laser ar gyfer dibenion cosmetig
Ond maen nhw eisiau'r hawl i graffu ar glinigau sydd yn cynnig gwasanaethau eraill fel botox a philio cemegol.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y gallai Mesur Iechyd y Cyhoedd arwain at reoleiddio fwy o driniaethau yn y dyfodol.
Ers mis Ebrill mae AGIC wedi ymweld â 24 o glinigau yn dilyn adroddiadau eu bod yn osgoi cofrestru ac mae'n nhw wrthi yn ymchwilio i 37 achos ychwanegol.
10 achos gafodd ei ymchwilio yn 2014-15.
£500 i gofrestru
Fel arfer, mae'r corff yn dod i wybod am bryderon gan feddygon neu aelodau'r cyhoedd.
Mae triniaethau laser neu driniaethau IPL yn cael eu defnyddio i drin nam ar y croen neu i gael gwared â gwallt neu datŵ.
£500 yw'r gost i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru bob blwyddyn.
Mae'r swm yn cynnwys archwilio'r adeilad a'r cyfarpar sy'n cael ei ddefnyddio, ond nid yw'n cynnwys asesiad o allu'r meddyg i wneud y swydd, na'r hyfforddiant.
Yn ôl Rhys Jones, pennaeth ymchwiliadau a rheoliadau Arolygaeth Gofal Iechyd Cymru, mae cynnydd wedi bod yn nifer y busnesau sy'n cynnig triniaethau laser cosmetig.
"Mae nifer fawr o wasanaethau laser wedi dechrau cofrestru gyda ni," meddai.
"Ond ynghlwm â hyn mae 'na nifer o wasanaethau sydd yn anghofrestredig. Er enghraifft, 'da ni'n cofrestru'r lleoliad yn hytrach na'r unigolyn."
"Felly sgil-effaith hyn yw bod 'na ambell i wasanaeth, sy' er enghraifft yn cynnig gwasanaeth laser symudol. Dy'n nhw ddim yn gofrestredig 'da ni, felly maen nhw'n cwympo allan o'r ddeddfwriaeth."
Mae AGIC yn galw am gofrestr genedlaethol i unigolion sy'n cynnig triniaethau cosmetig lle nad oes angen llawdriniaeth.
Profiad dynes sydd wedi cael triniaeth laser a'r creithiau corfforol ac emosiynol sydd ar ôl. Doedd hi ddim eisiau i ni ddefnyddio ei henw:
"Mae o 'di 'neud i fi deimlo'n ofnadwy. Straen ofnadwy ac yn ddigalon, iawn, iawn ac yn neud i mi feddwl mewn gwirionedd, oedd wir angen y driniaeth arna i?
"Mae bron yn anobeithiol am 'mod i wedi gorfod gwneud newidiadau i fy mywyd... mae'n taro eich hyder oherwydd 'da chi ddim yn medru dangos y rhan yna o'ch croen am ei fod yn achosi embaras.
"Dwi heb drafod y sefyllfa gyda'n nheulu chwaith. Maen nhw'n eitha' ceidwadol ac yn debygol o ofyn pam ges i'r driniaeth yn y lle cyntaf.
"Gan fod y creithiau lle ma' nhw dwi'n gorfod gorchuddio'r rhan yna o fy nghorff drwy'r amser. Mae'n hyll iawn... dim rhywbeth y gallwch guddio. Mi allwch chi drio defnyddio colur, ond mae'n gwisgo i ffwrdd... a dydi o ddim yr un lliw a'r croen.
"Dydw i ddim yn mynd i nofio. Roeddwn i'n arfer caru hynny, ond 'dwi ddim eisiau dangos y rhan yna o fy nghorff. Ac o ganlyniad mae yna bethau yr hoffwn ei wneud gyda fy mhlant, ond wna i ddim... dwi ddim eisiau iddyn nhw weld."
Mae Maria Gonzalez yn feddyg locwm dermatoleg sy'n gweithio yn y sector breifat gyda'r gwasanaeth iechyd. Mae hi'n dweud ei bod wedi dod ar draws cleifion sydd wedi cael eu creithio a'u llosgi yn ystod triniaethau laser.
"Dw' i wedi cael rhai cleifion sydd wedi dod ata i o achos cymhlethdodau o rywle arall," meddai.
"Mae e'n ymwneud â sut ydych chi yn delio gyda'r cymhlethdodau yma - cydnabod bod yna broblem a gwneud rhywbeth am y peth cyn bod e'n troi yn drychineb llwyr."
Adroddiad
Ar hyn o bryd mae Pwyllgor Iechyd y Cynulliad yn craffu ar Mesur Iechyd y Cyhoedd ac mae disgwyl adroddiad ddiwedd mis Tachwedd.
Mae'r mesur yn cynnwys cynigion penodol ar gyfer cynllun trwyddedu i bobl sydd yn cynnig tatŵs, electrolysis ac aciwbigo. Cynghorau lleol fydd yn gyfrifol am y rhain.
Ond dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Tra bod rhai triniaethau ddim wedi'u cynnwys… mae'r ddeddfwriaeth yn galluogi gweinidogion i addasu, trwy reoleiddio, y rhestr o driniaethau arbennig."
Mae Papur Gwyrdd gan Lywodraeth Cymru - sy'n edrych ar y ffordd mae'r Gwasanaeth Iechyd yn llywodraethu - hefyd yn debygol o arwain at newidiadau yn y ffordd mae AGIC yn gwneud ei gwaith.