Problemau wedi i dywydd gwael effeithio ar rannau o Gymru
- Cyhoeddwyd

Afon Conwy wedi gor-lifo ger pentref Trefriw yn Nyffryn Conwy
Fe fydd rhan o lein reilffordd yn parhau i fod ar gau tan ddydd Mercher oherwydd glaw trwm achosodd lifogydd ddydd Llun.
Mae bysiau yn lle gwasanaethau trên rhwng Llanrwst a Blaenau Ffestiniog tra bod gwaith clirio'n digwydd.
Oherwydd y glaw gorlifodd Afon Conwy mewn sawl lle yn Nyffryn Conwy.
Mae nifer o rybuddion llifogydd mewn grym yng Nghymru.
Llifogydd yn Nyffryn Conwy