Profion cyffuriau i staff Cyngor Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
adeilad cyngor wrecsam

Mae cynllun ar droed yng Nghyngor Wrecsam i gynnal profion alcohol a chyffuriau ar staff.

Yn ôl y cyngor, bwriad y profion yw darparu "awyrgylch ddiogel i weithio" yn ogystal ag annog staff i ymatal.

Yn rhan o'r cynllun, byddai aelodau staff sy'n cael eu hamau o fod â phroblem gydag alcohol neu gyffuriau yn cael eu profi yn gyntaf, yna byddai profion ar hap wedi chwe mis.

Fe gafodd y cynnig ei gefnogi ddydd Mawrth.

Dywedodd arweinydd yr awdurdod, y Cynghorydd Mark Pritchard ei fod "yn falch" fod y polisi ar droed, gan ychwanegu "nad oes lle i alcohol na chyffuriau" yn unrhyw weithlu. Pwrpas y polisi yw "gweithio gyda staff i gynnig cyngor, cymorth a chefnogaeth", meddai.

Yn yr adroddiad gafodd ei gyflwyno i fwrdd gweithredol y cyngor ddydd Mawrth, fe ddywedodd prif swyddog iechyd a diogelwch y cyngor, Nigel Lawrence fod "esiamplau o gyhuddo" wedi bod ynghlwm â defnydd cyffuriau ymysg staff.

Fe nododd yr adroddiad fod nifer o achosion disgyblu wedi bod yn ymwneud ag alcohol, a bod sylweddau anghyfreithlon wedi eu canfod yn eiddo'r cyngor.