Dwyn £30,000: 'Dim cofnod' o roi cod sêff
- Cyhoeddwyd

Mae plismones wedi dweud nad ydy hi'n cofio dyn - sy'n honni i dri heddwas ddwyn arian gafodd ei gymryd mewn cyrch cyffuriau - yn rhoi'r cod i'r swyddogion agor ei sêff.
Roedd y Ditectif Sarjant Nicola Roberts yn rhan o'r cyrch i chwilio cartref Joedyn Luben ym Mhenlan, Abertawe ar 1 Ebrill, 2011.
Fe ddywedodd hi wrth Lys y Goron Caerdydd ei bod hi wedi cael ar ddeall fod sêff wedi cael ei gymryd, a bod swyddogion wedi gofyn i Mr Luben am y cod i'w agor.
Ychwanegodd y byddai hi wedi cofnodi cod y sêff yn ei llyfr nodiadau petai hi wedi clywed Mr Luben yn ei ddatgelu, gan y byddai hynny wedi bod yn arwyddocaol.
Ond does dim cofnod o hynny yn ei llyfr nodiadau.
"Dw i'n eitha' sicr na roddodd e'r côd gan fod y sêff wedi ei gludo at saer cloeon i'w agor," meddai.
Yr wythnos ddiwethaf, fe ddywedodd Mr Luben ei fod wedi rhoi'r cod i heddwas, wnaeth ailadrodd y côd ar radio, a derbyn yr ymateb - "'Dy ni mewn".
Mae'r Ditectif Sarjant Stephen Phillips, 47 o Abertawe, y Ditectif Gwnstabl Christopher Evans, 38 o Langennech, a'r Ditectif Gwnstabl Michael Stokes, 35 o Lyn-nedd, yn gwadu dwyn.
Mae'n nhw wedi eu cyhuddo o ddwyn £30,000 o sêff Joedyn Luben gafodd ei gymryd yn ystod y cyrch.
Mae'r achos yn parhau.