'Perygl i wasanaeth S4C ddirywio'
- Cyhoeddwyd

Mae 'na berygl i wasanaeth S4C ddirywio os na fydd eu cyllid yn cael ei gynnal ar ei lefel bresennol, yn ôl y Sefydliad Materion Cymreig.
Mae ei arolwg o gyfryngau Cymru wedi galw am ddiogelu annibyniaeth S4C, ac i gyllideb BBC Cymru gael ei chynyddu o £30 miliwn.
Dywed Llywodraeth y DU eu bod wedi ymrwymo i ddarlledu mewn ieithoedd lleiafrifol.
Yn y cyfamser, mae'r BBC wedi amddiffyn eu darpariaeth ar gyfer cynulleidfaoedd Cymreig, gan ddweud y byddan nhw'n rhoi sylw i sicrhau fod digon o raglenni Saesneg eu hiaith yn cael eu cynhyrchu yng Nghymru.
Argymhellion
Daw'r ddogfen ar y cyfryngau yng Nghymru cyn uwchgynhadledd cyfryngau yng Nghaerdydd ddydd Mercher lle bydd materion sy'n effeithio ar y diwydiannau print, darlledu a digidol yn cael eu trafod.
Dyma arolwg cyntaf y sefydliad o'r cyfryngau yng Nghymru ers 2008. Mae'r ddogfen yn argymell y:
- Dylai Llywodraeth Cymru sefydlu panel i fonitro tueddiadau'r diwydiant cyfryngau;
- Dylai S4C a BBC Cymru wneud y gorau o'u cydweithrediad tra'n cynnal gwasanaethau sy'n annibynnol ar ei gilydd;
- Dylai S4C a BBC 2 Wales gael eu darlledu mewn HD (llun o fanylder uwch);
- Dylai BBC Radio 1 a Radio 2 yng Nghymru ddarlledu rhaglenni newyddion Cymreig;
- Dylai'r BBC greu gwasanaeth iPlayer yn benodol i Gymru;
- Dylai'r cyfrifoldeb am ddarlledu gael ei rannu rhwng llywodraethau Cymru a Phrydain;
- Dylai cronfa i dalu am wasanaethau newyddion ar-lein "arloesol" gael ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru.
'Gwariant yn dirywio'
Yn ôl yr arolwg, mae gwariant ar raglenni teledu yng Nghymru wedi bod yn dirywio ers cyn yr argyfwng bancio yn 2008 tra bod nifer oriau darlledu rhaglenni Saesneg BBC Cymru wedi gostwng 27% ers 2006-07.
Dywedodd yr arolwg fod setliadau ffi'r drwydded "anodd" a osodwyd gan lywodraeth y DU yn 2010 a 2015 yn "fygythiad" i BBC Cymru ac S4C.
Ers 2010 mae S4C wedi derbyn y rhan fwyaf o'u cyllid gan ffi'r drwydded, gyda'r gweddill yn dod gan lywodraeth Prydain.
Mae platfformau digidol y darlledwyr a'r cyhoeddwyr wedi elwa yn y cyfnod hwn.
Er i gylchrediadau papurau newydd Cymru "ostwng yn sylweddol" ers 2008 yn unol â thueddiadau byd-eang, mae'r arolwg yn nodi twf sylweddol yn nefnydd safleoedd papur newydd ar-lein.
'Datblygu safonau cyson'
Dywedodd Hywel Wiliam o grŵp polisi cyfryngau'r Sefydliad Materion Cymreig: "Dy'n ni ddim yn derbyn bod dim modd datganoli unrhyw agwedd ar ddarlledu.
"Ry'n ni'n gweld bod cyfleoedd gyda thrwyddedu radio, er enghraifft, lle 'falle y gallai pwyllgor ymgynghorol Ofcom chwarae mwy o rôl.
"Ry'n ni hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried cynnal prosiect ymchwil o'r math yma yn rheolaidd bob blwyddyn.
"Beth sydd ei angen, dw i'n credu, yw ein bod ni'n casglu gwybodaeth ddibynadwy, ein bod ni'n gallu gwneud dadansoddiad, ein bod ni hefyd 'falle yn gallu comisiynu ymchwil ar rai agweddau."
Ychwanegodd: "Yn ein barn ni, mae angen ymchwil ac mae angen datblygu safonau cyson."
'Gwerthfawrogiad'
Wrth siarad ar raglen y Post Cyntaf ddydd Mercher, dywedodd un o aelodau Awdurdod S4C, Guto Harri:
"Chi angen cyllid call i wneud rhaglenni o ansawdd da.
"Dwi'n gweld bod 'na werthfawrogiad yn rhengoedd uchel y llywodraeth o gyfraniad y Sianel, nid yn unig i'r iaith Gymraeg ac i'r diwylliant Cymraeg, ond i greu gwaith yng nghefn gwlad, i sefydlu cwmnïau preifat sy'n mynd 'mlaen wedyn i allforio rhaglenni i bedwar ban byd."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Nid ydym yn credu mai nawr yw'r amser cywir i hyn oherwydd ein bod yn dal i aros am ganlyniad adolygiad Siarter y BBC, trafodaeth gyda Llywodraeth y DU am S4C ac ystyried argymhellion Comisiwn Silk a Chomisiwn Smith ar ddatganoli pellach.
"Byddwn yn adolygu'r angen am banel cynghori ar y cyfryngau."
'Wedi ymrwymo'
Dywedodd llefarydd ar ran Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU (DCMS): "Rydym wedi ymrwymo i ddarparu darlledu mewn ieithoedd lleiafrifol, gan gynnwys S4C."
Yn y cyfamser, mae'r BBC yn dweud eu bod wedi ymrwymo i gynulleidfaoedd Cymreig er gwaetha'r feirniadaeth fod llai o raglenni Saesneg yn cael eu cynhyrchu yng Nghymru.
Roedd y BBC yn ymateb i sylw gan Lywodraeth Cymru fod "gostyngiad tymor hir yn nifer y rhaglenni comedi ac adloniant yn druenus".
Meddai James Purnell, Cyfarwyddwr Strategaeth a Digidol y BBC:
"Dydy hi ddim yn hawdd - does 'na ddim hudlath. 'Da chi eisiau rhaglenni gwych - 'da chi ddim eisiau cwotâu sy'n cyflawni rhywbeth ar bapur ond ddim wir yn greadigol.
"Rwy'n credu y byddwn i'n edrych ar beth sydd wedi digwydd gyda'r pentre' drama ym Mhorth y Rhath - dyna i chi addewid sy'n sicr wedi'i gyflawni. 'Da ni erbyn hyn yn creu mwy nag oeddan ni'n meddwl yng Nghymru - gawn ni weld a allwn ni wneud hynny gyda rhaglenni Saesneg eu hiaith nawr."