Y cyfryngau yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Bydd cynhadledd yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd ar 11 Tachwedd i drafod y cyfryngau yng Nghymru.
Dan sylw fydd ffi drwydded y BBC a'r heriau sy'n wynebu'r gorfforaeth wrth baratoi i adnewyddu'r siarter.
Bydd hefyd trafodaeth ar arolwg y Sefydliad Materion Cymreig (IWA) ar y cyfryngau - yn Gymraeg ac yn Saesneg - ar draws print, darlledu ac ar-lein.
Mae'r maes wedi cael sylw cyson gan Cymru Fyw yn ystod y misoedd diwethaf. Dyma farn rhai o'n cyfrannwyr am wahanol agweddau o'r cyfryngau:
Jon Gower a heriau'r e-lyfrau
Gall un ddadlau fod 'y wasg' yn cynnwys mwy na dim ond y cyfryngau newyddiadurol.
Ar ddechrau'r flwyddyn, bu'r awdur Jon Gower yn darogan be' fyddai ffawd llyfrau a chyhoeddiadau Cymraeg wrth i dechnoleg weddnewid y ffordd mae pobl yn darllen nofelau.
Efallai fod mwy a mwy yn darllen newyddion ar eu tabledi ac ar eu ffonau, ond mae'n debyg fod darllen nofelau yn stori wahanol eto.
"[Y]n y blynyddoedd diwethaf mae sawl un wedi darogan gwae, ac yn benodol yn mynnu y bydd y gwae hwnnw yn cyrraedd ar ffurf e-lyfr," meddai enillydd Llyfr y Flwyddyn 2012 gyda'i nofel, Y Storïwr.
"Ond bloedd yn rhy gynnar yw hyn, efallai. Mae arwyddion pendant ein bod wedi cyrraedd pen llanw'r e-lyfr, a bod y gwerthiant, bellach, ar drai."
Gwion Lewis a dyddiau ansicr i S4C
Dros yr haf, bu'r bargyfreithiwr Gwion Lewis yn cyflwyno cyfres ar BBC Radio Cymru o'r enw 'Cyflwr y Cyfryngau'.
Mewn cyfres o erthyglau i Cymru Fyw, fe ddechreuodd gan ddweud y byddai 'na "haf difyr o drafod o'n blaenau".
Ar ddechrau mis Gorffennaf, daeth cyhoeddiad mai'r BBC fydd yn talu am drwyddedau teledu i'r rhai dros 75 oed o 2018 ymlaen, gan gostio £650 miliwn posib i'r BBC - un rhan o bump o'i chyllideb.
Roedd Gwion yn rhagweld y byddai'r sianel newyddion BBC News yn mynd ar-lein yn unig, ac roedd yn ofni am ddyfodol BBC Four.
"Ond yn naturiol, goblygiadau'r fargen ar gyfer S4C sydd wedi hawlio'r penawdau yng Nghymru," ysgrifenodd. "Gan fod y sianel Gymraeg hefyd yn cael ei hariannu'n helaeth o bot y drwydded deledu erbyn hyn, mae'n 'rhesymol', meddai Ysgrifennydd Diwylliant y DU, John Whittingdale, disgwyl i S4C wneud arbedion pellach hefyd.
"Nid gormodiaith yw dweud fod y geiriau hyn wedi ysgwyd y diwydiant teledu yng Nghymru i'r byw."
Mewn darn arall, fe ddywedodd fod "haf horribilis y cyfryngau Cymraeg yn parhau" gan gwestiynu os oedd y BBC bellach yn gweld S4C a BBC Radio Cymru fel "gwerth am arian".
"Bargen!" - Huw Edwards ar ddyfodol y BBC
Roedd hi'n haf o newid mawr i'r gorfforaeth, fel sydd wedi'i grybwyll eisoes.
Y darlledwr Huw Edwards, cyflwynydd BBC News at Ten, fu'n trafod y goblygiadau. Roedd yn barod iawn i ddweud mai "bargen" oedd holl allbwn y BBC o'i gymharu a'i gystadleuwyr:
"[E]wch ar bob cyfrif i brynu'r Sun am 40c (70c ar benwythnos). Neu'r Telegraph am £1.40 (£2 ar benwythnos).
"Neu'r Daily Mail am 60c (90c ar benwythnos). Neu'r Guardian am £1.80 (£2.70 ar benwythnos). Fe gewch wledd o newyddion a cholofnau lliwgar i siwtio'ch rhagfarnau eich hunain. Pob lwc i chi.
"Ond am bris o 40c y dydd fe gewch holl gynnyrch y BBC ar deledu, radio ac arlein. Bargen? Heb os."
Fe soniodd hefyd am ddyfodol S4C, gan ganmol y gwaith "ardderchog ac arloesol ar ei llwyfannau digidol". Ond roedd yn cydnabod bod ei chyllideb wedi'w dorri'n "enbyd", ac fe alwodd ar y Cymry i "leisio'u barn yn egnïol yn y misoedd i ddod".
"Y peiriant sosej..." Ifan Morgan Jones a'r bygythiad i'r wasg leol
Yn dilyn ffigyrau siomedig, ond disgwyliedig, i werthiant papurau newydd yng Nghymru 'nôl ym mis Awst, y darlithydd a'r cyn-olygydd Ifan Morgan Jones fu'n trafod gyda Cymru Fyw.
Roedd o'n grediniol fod mwy yn darllen newyddion nag ers degawdau, ond bod mwy a mwy o'r gynulleidfa yn troi at gynnyrch ar-lein yn hytrach nag at bapur.
Gymaint yw'r cwymp, roedd yn rhagweld y byddai rhai papurau lleol dyddiol yn gorfod troi'n rhai wythnosol ac fe soniodd hefyd am bryder y "straeon peiriant sosej".
Dyfrig Jones a'r cylchgronau
Ym mis Medi, cyhoeddodd y Cyngor Llyfrau pa gylchgronau a chyhoeddiadau Cymraeg fyddai'n derbyn grantiau dros y tair blynedd nesa' - gyda'r symiau'n amrywio o £1,500 i £80,000 y flwyddyn.
Roedd y darlithydd mewn cyfryngau ac ymarfer creadigol, Dyfrig Jones, o'r farn y dylai mwy o ddeunydd Cymraeg fod ar gael am ddim ar-lein.
"Fel hyn, bydd cyfoeth cyhoeddi Cymraeg ar gael i fwy o bobl nag erioed o'r blaen," meddai.
Er fod pob papur newydd neu gylchgrawn yn wynebu dyfodol ansicr, dywedodd Dyfrig fod yr her sy'n wynebu cyfnodolion Cymraeg yn "arbennig o frawychus".
Ond o leia' roedd o'n cynnig rhyw fath o ateb i'r broblem. Ac mae'n debyg y bydd rhaid i fwy o bobl o fewn y diwydiant fod yn barod i gynnig eu datrysiadau nhw hefyd dros y misoedd a'r blynyddoedd i ddod.