'Diffyg' rhaglenni Saesneg o Gymru
- Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth Cymru wedi disgrifio fel "siom fawr" yr hyn maen nhw'n ei alw yn ddiffyg rhaglenni comedi a dramâu Saesneg sy'n cael eu cynhyrchu gan BBC Cymru.
Roedd y llywodraeth yn ymateb i ymgynghoriad ar ddyfodol y BBC, gan ddweud fod ganddynt bryder mawr am gyllido yn y dyfodol
Ym mis Awst, fe wnaeth Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, alw am wario £30 miliwn yn ychwanegol ar raglenni'r BBC ar gyfer diwallu anghenion cynulleidfaoedd yng Nghymru.
Dywed y BBC eu bod yn trafod eu cynlluniau gyda'r llywodraethau datganoledig hyn o bryd, ond eu bod yn "wynebu her ariannol anodd."
Incwm
Yn eu hymateb i'r ymgynghoriad dywed llywodraeth Cymru: "Byddwn yn cwestiynu sut y gallai'r BBC gyflawni eu haddewidion i wella gwasanaethau i'r cenhedloedd - gan gynnwys newyddion digidol, addysg, ac adloniant - tra'u bod wedi dweud na fydd modd cynyddu'r gwariant.
Ychwanegodd Llywodraeth Cymru fod y BBC ond wedi ymroi i ddiogelu gwariant o ran y cenhedloedd i'r perwyl y "bydd toriadau yn llai nac mewn ardaloedd a meysydd eraill."
"Rydym yn derbyn fod y BBC mewn sefyllfa anodd oherwydd toriadau i'w cyllideb, ond mae'r cynigion hyn yn codi mwy o gwestiynau am y cynnyrch fydd yn dod o Gymru yn y dyfodol.
Ychwanegodd llywodraeth Cymru ei bod yn hanfodol fod S4C, corff sy'n derbyn y rhan fwyaf o'i hincwm o'r drwydded ddarlledu, yn derbyn digon o gyllid.
Dywedodd llefarydd ar ran y BBC: "Rydym yn gweithio gyda'r cyhoedd a'r llywodraethau datganoledig er mwyn cwrdd â dyheadau cynulleidfaoedd led led y DU.
"Ond mae'n rhaid i ni dderbyn fod y setliad diweddara am ffi'r drwydded yn golygu fod y BBC yn wynebu her ariannol galed.