Dem. Rhydd: Gwrthod codiad cyflog
- Cyhoeddwyd
Dywed y Democratiaid Rhyddfrydol y byddant yn pleidleisio yn erbyn cyllideb gweinyddiaeth y Cynulliad fel protest yn erbyn codiad cyflog o £10,000 i aelodau'r cynulliad.
Mae panel annibynnol wedi argymell codiad cyflog o £64,000 o 2016 ymlaen - er gwaetha gwrthwynebiad rhai ACau.
Mae Comisiwn y Cynulliad eisiau gweld cynnydd o £50.9 miliwn yn eu cyllideb yn 2015, a chynnydd o £52m yn 2016, yn rhannol oherwydd y cynnydd yng nghyflogau aelodau.
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi annog ACau i bleidleisio yn erbyn y gyllideb ddydd Mercher.
Dywedodd Kirsty Williams, Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, "Ni fyddaf yn gallu wynebu fy etholwyr yn gwybod na wnes i frwydo'n galed yn erbyn y cynnydd i gyflogau ACau. "
Mae Plaid Cymru wedi gwrthod galwad y Democratiaid Rhyddfrydol.
Dywedodd llefarydd; "Mae newidiadau i gyflogau ACau wedi eu penderfynu gan gorff annibynnol, mewn proses annibynnol, ac felly fe ddylai'r comisiwn weithredu argymhellion y corff."
Ychwanegodd y llefarydd y gallai aelodau cynulliad unigol benderfynu drostynt eu hunain a ddylid derbyn y codiad cyflog.