Llanc yn euog o ddynladdiad
- Cyhoeddwyd

Yn Llys y Goron Caerdydd mae llanc 16 oed, drywanodd bensiynwr i farwolaeth, wedi ei gael yn euog o ddynladdiad.
Clywodd y llys ei fod wedi mynd i dŷ Michael Harrington, 67, yn Grangetown, Caerdydd, am ei fod yn ei amau o gam-drin merch yn rhywiol.
Ond nid oedd cwyn ffurfiol yn erbyn Mr Harrington fu farw bedwar diwrnod wedi'r ymosodiad.
Does dim modd enw'r llanc, blediodd yn ddieuog i'r cyhuddiad, am resymau cyfreithiol.
Bydd ar fechnïaeth tan iddo gael ei ddedfrydu ar 27 Tachwedd.
'Yn ddig'
Dywedodd yr erlynydd Roger Thomas QC: "Roedd yn ddig gyda'r dyn hwn.
"Ond ni chafodd Mr Harrington ei arestio erioed ac ni chwynodd neb i'r heddlu."
Pan gafodd y gwasanaethau brys eu ffonio dywedodd y llanc: "Dwi'n gobeithio y bydd yn marw achos yr hyn wna'th e."
Clywodd y llys fod y pensiynwr wedi diodde o emffysema a chlefyd y galon.