Gweinidogion yn cyhoeddi cytundeb cyffuriau
- Cyhoeddwyd

Fe fydd cleifion canser yng Nghymru yn gallu cael rhai cyffuriau nad oedd ar gael ar y Gwasanaeth Iechyd fel arfer am fod Llywodraeth Cymru wedi dod i gytundeb gyda chwmni fferyllol.
Y cyffur Afinitor neu Votubia fydd yn trin canser yr aren, pancreas a'r fron.
Fel rhan o'r cytundeb fe fydd cwmni Novartis yn buddsoddi £1.3m yng Nghymru mewn gwaith ymchwil i ganser y fron.
Bydd y cyffuriau Afinitor ac Aromasin yn rhan o'r astudiaeth.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Vaughan Gething fod y cytundeb an ddwy flynedd yn "unigryw".
Mae dioddefwyr wedi ymgyrchu o blaid cael defnyddio Afinitor yng Nghymru ers blynyddoedd.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar iechyd Elin Jones y byddai rhai fyddai angen y cyffuriau yn croesawu'r newyddion ond beirniadodd bolisi oedd yn golygu bod trinaethau ar gael "fesul tipyn".