Ceidwadwyr: 'Ystyried cefnogi' cynllun M4

  • Cyhoeddwyd
traffig M4

Mae'r Ceidwadwyr wedi dweud y bydden nhw'n ystyried cefnogi cynnig Llywodraeth Cymru i adeiladu ffordd liniaru M4 yn ardal Casnewydd - os yw Prif Weinidog Cymru yn profi y bydd yn costio llai na £1bn.

Yn ystod sesiwn cwestiwn ac ateb wythnosol y Prif Weinidog fe ofynnodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, a fyddai Carwyn Jones yn gallu cefnogi ei honiad ar Radio Wales y byddai'r ffordd newydd "yn costio llawer llai na hynny".

Fe wrthododd Mr Jones ymhelaethu, gan ddweud: "Fel dy'n ni wastad wedi dweud, fydd e ddim yn costio'r ffigwr 'na ac fe fydd e'n costio llai na hynny.

'Ddim yn ddoeth'

"Dy'n ni ddim am gyhoeddi ffigwr yn gyhoeddus gan y byddai hynny gyfystyr â dangos eich cardiau mewn gêm o bocer - gan y bydd gennym ni gwmnîau yn ceisio am gytundebau i adeiladu'r ffordd.

"Fyddai datgelu'r ffigwr cyn hynny ddim yn syniad doeth ym myd busnes."

Fe ddywedodd Mr Davies: "Dyw hi ddim yn afresymol i ofyn am dryloywder ynghylch y ffigyrau 'ma pan mae cymaint o ymdrech ac amser gweision sifil yn mynd i'r prosiect.

"Yn y pen draw fe allech chi gael rhagor o gefnogaeth i'r prosiect petaech chi'n fwy eglur o ran y sylwadau gafodd eu gwneud."

Disgrifiad,

Mae'r fideo hwn yn dangos llwybr posib y cynllun newydd

Manylion y prosiect

Fel rhan o'r prosiect byddai:

  • ffordd newydd 15 milltir o hyd yn cael ei hadeiladu;
  • traphont 1.5 milltir o hyd yn cael ei hadeiladu dros afon Wysg;
  • a gwaith datblygu mawr ar gyffyrdd 23 a 29.
  • Y disgwyl yw y bydd y gwaith adeiladu'n dechrau yng ngwanwyn 2018.

Does yr un o wrthbleidiau'r cynulliad wedi cefnogi'r cynllun hyd yn hyn.

Mae'r Ceidwadwyr am arolwg o'r cynllun tra bo Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cefnogi cynllun i uwchraddio'r ffordd bresennol.

Yn ôl gwaith ymchwil, byddai'r prosiect amgen yn costio llai na hanner pris traffordd newydd yn yr ardal, ond mae Prif Weinidog Cymru yn anghytuno, gan ddweud y byddai uwchraddio'r ffordd bresennol yn costio rhwng £600m a £800m.

Mae digwyl penderfyniad terfynol ar y cynlluniau wedi etholiad y Cynulliad yn 2016.

Yn y cyfamser, mae Llywodraeth Cymru yn gwario £20m ar waith paratoi.

Mae disgwyl i ymchwiliad cyhoeddus ddechrau yn 2016, gyda'r gwaith adeiladu yn dechrau yn 2018, a'i gwblhau yn 2021.