Dydd y Cadoediad: Cymru'n cofio

  • Cyhoeddwyd
Digwyddiad coffa yng NghaernarfonFfynhonnell y llun, Jay Booth/Twitter
Disgrifiad o’r llun,
Digwyddiad coffa yng Nghaernarfon

Roedd yna ddau funud o dawelwch ar hyd a lled Cymru am 11:00 ddydd Mercher i nodi Dydd y Cadoediad.

Yn y senedd ym Mae Caerdydd cafodd arddangosfa o straeon am filwyr a'u teuluoedd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ei dadorchuddio, gydag enwau 11,000 o ddynion o gatrawd y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig fu farw yn y Rhyfel Mawr yn cael eu dangos ar furiau Castell Caernarfon nos Fercher.

Disgrifiad,

Yr hanesydd Hefin Mathias sy'n egluro arwyddocâd y pabi coch

Tu allan i'r Hen Llyfrgell ar Sgwâr y Frenhines yn Wrecsam, bydd seiren fomio o amser y rhyfel yn canu am 18:30.

Roedd 'na ddigwyddiadau a gwasanaethau wedi'u trefnu mewn trefi a phentrefi ar draws Cymru.

Yn Llundain, bu'r gantores Cerys Matthews yn darllen erthygl o bapur newydd y Times o fis Hydref 1915, yn cyfeirio at farwolaethau 41 o unig feibion ar faes y gad.

Ffynhonnell y llun, Jamie Ashcroft/Twitter
Disgrifiad o’r llun,
Pabi ar gofeb y tu allan i'r Senedd ym Mae Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,
Y cofio yn Wrecsam
Disgrifiad o’r llun,
Bu pobl yn cofio ger y Gadeirlan yn Llandaf, Caerdydd