Creu 100 o swyddi wrth i gwmni bwyd ehangu
- Cyhoeddwyd

Bydd cwmni bwyd yn creu 100 o swyddi newydd wrth iddyn nhw ehangu.
Mae KK Fine Foods yn cynhyrchu prydau parod wedi eu rhewi yn ardal fenter Glannau Dyfrdwy.
Bydd trydedd neuadd gynhyrchu yn agor ar ôl sicrhau cytundebau i gyflenwi tafarnau Wetherspoons, archfarchnadoedd Aldi a Morrisons a siop fawr Ikea.
Symudodd y busnes i Lannau Dyfrdwy yn 2003 gyda 23 o staff ond oherwydd buddsoddiad o £833,000 a benthyciad o £100,000 gan Lywodraeth Cymru mae disgwyl y bydd y cwmni yn cyflogi 350 o fewn chwe mis.
Dywedodd Leyla Edwards, Prif Swyddog Gweithredol KK sefydlodd y cwmni yn ei chegin yn 1987, fod "buddsoddiad parhaus yn y busnes a'n hamrywiaeth arloesol o rysetiau a phrydau o ansawdd uchel yn gyfuniad llwyddiannus - mae wedi arwain at nifer sylweddol o archebion newydd gan ein cwsmeriaid".
Mae disgwyl i'r gwaith orffen ym mis Mawrth 2016.