Cynnal Urdd 2018 ar Faes Sioe Fawr
- Cyhoeddwyd

Fe fydd Eisteddfod yr Urdd yn dychwelyd i Frycheiniog a Maesyfed am y tro cyntaf ers 40 mlynedd.
Mewn cyfarfod cyhoeddus yn Aberhonddu nos Fawrth cafodd prifwyl yr ieuenctid ei gwahodd i'r ardal yn y flwyddyn 2018.
1978 oedd y tro diwetha i'r Steddfod fod yn y cylch - ac fel yr adeg honno, fe fydd yn cael ei chynnal ymhen tair blynedd ar Faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd.
"Dwi'n credu ei bod hi'n hen bryd i ni ddod nôl i'r ardal hon er mwyn hyrwyddo'r Gymraeg, hyrwyddo'r Urdd ac, yn amlwg, hyrwyddo'r celfyddyd yn yr Eisteddfod," meddai Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd, Aled Siôn.
"Yn amlwg, y maes gorau yn yr ardal hon yw maes y sioe," ychwanegodd.
'Cyfnod cyffrous'
"'Dan ni wedi bod yn siarad ag awdurdodau'r Sioe, ac maen nhw'n hapus iawn i'n croesawu ni."
Roedd tua 60 o bobl yn y cyfarfod yn Ysgol y Bannau, a chroeso cyffredinol i wahodd yr Eisteddfod.
"Mae'n gyfnod cyffrous dros ben i ni," meddai Cydlynydd Menter Iaith Brycheiniog a Maesyfed, Bethan Jones.
"R'yn ni'n edrych ymlaen at weld datblygiad yn y Gymraeg yn yr ardal, a chyfle i dynnu mewn pobl ifanc, a dysgwyr a'r diGymraeg i mewn i'r ŵyl anhygoel yma."
Fe fydd Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed yn cael ei chynnal rhwng Mai 28 a Mehefin 2 2018.