Disgwyl i Jonathan Davies ddychwelyd i'r Scarlets
- Cyhoeddwyd

Mae BBC Cymru ar ddeall fod disgwyl i ganolwr Cymru a'r Llewod Jonathan Davies ddychwelyd i'r Scarlets o glwb Clermont Auvergne.
Fe adawodd Davies y Scarlets i ymuno â'r clwb o Ffrainc yn 2014, ond mae sôn wedi bod ers rhai misoedd y byddai'n dod yn ôl.
Fe all y chwaraewr 27 oed symud y tymor nesa, wedi i'w gytundeb gyda Clermont ddod i ben.
Mae Davies wedi ennill 48 cap dros Gymru, ond fe fethodd Gwpan Rygbi'r Byd oherwydd anaf difrifol i'w ben-glin.