Achos Tracey Woodford: Pen wedi ei guddio mewn draen

  • Cyhoeddwyd
Christopher MayFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,
Christopher May tu allan i'r llys cyn achos blaenorol

Mae llys wedi clywed fod cyn-gigydd, sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio dynes oherwydd cymhelliad rhywiol, wedi cario ei phen drwy dref Pontypridd cyn ei guddio mewn draen.

Fe gafodd corff Tracey Woodford, 47, ei ddarganfod yn y dre' yn Rhondda Cynon Taf ym mis Ebrill wedi adroddiadau ei bod ar goll.

Mae Christopher Nathan May, 50, o ardal Y Graig, Pontypridd, yn gwadu llofruddiaeth.

Ddydd Mercher fe glywodd Llys y Goron Caerdydd fod swyddogion yr heddlu wedi dod o hyd i ddarnau o gorff Ms Woodford yn nhŷ Mr May ac mewn draen ger Clwb Rygbi Pontypridd.

Dywedodd Sarjant Stewart Williams, ddaeth o hyd i ddarnau o gorff tra'n chwilio yn stafell ymolchi Mr May, nad oedd yn coelio'r hyn a welodd.

"Roeddwn i mewn sioc," meddai.

'Fel ffilm arswyd'

Clywodd y llys gan Cwnstabl Craig Gardiner, 34, am y foment pan ddaethon nhw o hyd i ddarnau corff tu ôl i lenni'r bath.

"Ro'n i'n meddwl bod fy llygaid yn fy nhwyllo a 'mod i'n gwylio rhyw fath o ffilm arswyd," meddai mewn datganiad ysgrifenedig.

Yn ôl arbenigwr, roedd y modd yr oedd y corff wedi cael ei rannu'n awgrymu fod gan y sawl oedd yn gyfrifol rhywfaint o "sgil a gwybodaeth".

Dywedodd Roger Thomas QC, ar ran yr erlyniad ei bod hi'n "ymddangos fod ei brofiad mewn siop gigydd wedi'i ddefnyddio ar gorff dynol."

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,
Fe gafodd corff Tracey Woodford ei ddarganfod ar 21 Ebrill

Cafodd Ms Woodford ei gweld am y tro diwethaf yn gadael tafarn y Skinny Dog gyda Mr May.

Clywodd y llys fod y diffynnydd wedi dweud wrth heddwas fod gweddill rhannau corff Ms Woodford "yn y cwpwrdd a bod rhai rhannau yn y draen yng Nghlwb Rygbi Pontypridd."

Yno, gosododd ei phen ar silff o fewn twnnel yn y draen storm.

"Cariodd y diffynnydd rannau o gorff a phen o'i fflat, trwy ardal o Bontypridd, a mewn i dwnnel lle cerddodd am 138m (453 troedfedd) - pellter sylweddol," dywedodd Mr Thomas.

"Rhaid gofyn: Beth sy'n digwydd ym meddwl y dyn hwn?"

'Bwriadol a chreulon'

Pan gafodd ei arestio, dywedodd Mr May fod Ms Woodford wedi cytuno cael rhyw gydag o, ond eu bod wedi ffraeo ar ôl hynny.

Honnodd ei fodwedi cyflawni'r weithred drwy ddamwain, i amddiffyn ei hun, neu ei fod wedi colli rheolaeth o'i hun.

Ychwanegodd Mr Thomas mai achos marwolaeth Ms Woodford oedd pwysau ar ei gwddf.

Ond fe gafodd nifer o'i hanafiadau wrth "frwydro, er yn aflwyddiannus, i geisio achub ei bywyd", meddai.

Mae'r erlyniad yn mynnu fod yr ymosodiad yn un "bwriadol a chreulon" a bod cymhelliad rhywiol i'r llofruddiaeth.

Mae'r achos yn parhau.