Dyn yn y llys am lofruddio Simon Bell yn Llanelli
- Cyhoeddwyd

Bu farw Simon Lee Bell yn dilyn digwyddiad yn Llanelli
Mae dyn 30 oed sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio Simon Bell yn Llanelli wedi ymddangos ger bron llys.
Fe ymddangosodd Wesley Jones yn lys nadon Llanelli Mercher.
Bu farw Mr Bell, 22 oed, yn yr ysbyty wedi digwyddiad ar Stryd Dilwyn yn y dref ar 6 Tachwedd.
Fe fydd Jones yn cael ei gadw yn y ddalfa, ac mae disgwyl iddo ymddangos yn llys y Goron Abertawe ddydd Iau.