Diweithdra ar i fyny yng Nghymru, ar i lawr ar draws y DU

  • Cyhoeddwyd
Canolfan byd gwaith
Disgrifiad o’r llun,
Mae 6.1% o bobl yn ddi-waith yng Nghymru erbyn hyn

Er bod ffigyrau ar draws Prydain yn dangos gostyngiad yn nifer y di-waith rhwng Gorffennaf a Medi, roedd yna gynydd yng Nghymru.

Roedd 'na 93,000 o bobl yn ddi-waith yng Nghymru o'i gymharu â 90,000 rhwng Ebrill a Mehefin.

Mae'r gyfradd ddiweithdra wedi cynyddu i 6.1%, sy'n uwch na'r cyfartaledd trwy'r DU o 5.3%.

Mi gynyddodd y ffigwr o 90 o filoedd yn ddi-waith i naw deg a thri o filoedd. Trwy Brydain - mae mwy o bobl mewn gwaith nac ar unrhyw adeg ers i gofnodion ddechrau ym 1971.

Roedd nifer y bobl yn gweithio yng Nghymru wedi gostwng o 6,000 yn y tri mis diwetha' - ond mae'n dal yn 44,000 yn fwy na flwyddyn yn ôl.

Ar draws y DU mae nifer y bobl sydd mewn gwaith yn uwch nag ar unrhyw gyfnod arall ers i gofnodion ddechrau yn 1971.

'Siomedig'

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb fod y ffigyrau yn "siomedig" i Gymru, "yn enwedig pan fo gweddill y DU yn symud i'r cyfeiriad cywir."

Ond ychwanegodd: "Mae'r ffigyrau yn dangos yn glir fod angen glynu at weledigaeth a strategaeth tymor hir Llywodraeth y DU er mwyn cadw economi Cymru ar y trywydd iawn."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae ein polisïau yn llwyddo i gael mwy o bobl mewn gwaith yng Nghymru.

"Flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae'r raddfa gyflogaeth yng Nghymru wedi cynyddu'n gryf i lefel sy' bron yn uwch nag erioed, tra bod segurdod economaidd ar i lawr fwy yng Nghymru nag yn unrhyw ran arall o'r DU, ac mae'n agos at fod yr isa' erioed."

Mewn ymateb i'r ffigyrau, dywedodd Eluned Parrott AC, llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar yr economi:

"Mae 'na batrwm yn amlygu ei hun fod economi Cymru'n tanberfformio'n rheolaidd o'i gymharu â'r cyfartaledd ar draws y DU. Y gwahaniaeth clir yma yw'r Llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd.

"Gyda rhai ardaloedd mentergarwch ond yn creu llond llaw o swyddi, mwy o siopau gweigion yng Nghymru nag yn unrhyw ran arall o'r DU, ac ychydig iawn o ganolbwyntio ar ddatblygu sgiliau yn y gweithle, does dim rhyfedd fod Llafur yn methu dro ar ôl tro."