Ymchwiliad i lofruddiaeth yn Llanelli
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu yn holi tri o bobl yn dilyn llofruddiaeth yn Felinfoel, Llanelli.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu DyfedPowys fod yr ymchwiliad yn dilyn digwyddiad yn ardal Pleasant View yn y dre'.
Mae dau ddyn a dynes yn y ddalfa ac yn cynorthwyo'r heddlu gyda'u hymholiadau.
Does dim rhagor o fanylion ar hyn o bryd.