Streic gan yrwyr Trenau Arriva Cymru wedi ei chanslo
- Cyhoeddwyd
Mae streic 48 awr gan yrwyr renau Arriva Cymru wedi cael ei chanslo yn dilyn trafodaethau munud ola' rhwng y cwmni a'r undebau.
Roedd staff i fod i weithredu ddydd Iau a dydd Gwener.
Mae aelodau undeb gweithwyr trafnidiaeth yr RMT, a'r undeb gyrwyr trenau, ASLEF, yn anhapus gyda thelerau gwaith.
Ond yn dilyn cyfarfod rhwng y ddau undeb ac Arriva ddydd Mercher, cafodd y streic ei chanslo am y tro.
Meddai llefarydd ar ran undeb yr RMT: "Yn dilyn datblygiadau pwysig mewn trafodaethau munud ola' gyda'r RMT ac ASLEF, ac ar ôl i fwrdd gweithredol yr undeb ystyried y mater yn ofalus, rydym wedi cytuno i atal y streic oedd i fod i ddechrau ar renau Arriva Cymru am hanner nos er mwyn caniatáu rhagor o drafodaethau.
"Bydd staff, felly, yn gweithio yn ôl eu harfer."
Roedd disgwyl i'r gweithredu diwydiannol effeithio ar filoedd o deithwyr ar draws Cymru.
Straeon perthnasol
- 11 Tachwedd 2015