Gwrthdrawiad M4: Cyhoeddi enw dyn fu farw
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw dyn fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr M4 ger Caerdydd ar 2 Tachwedd.
Bu farw Michael Coleman, 50, o Fetws ger Brynaman, ar ôl i lori daro'n erbyn y craen yr oedd e'n ei yrru yn ogystal a char Citroen Picasso.
Wrth roi teyrnged, dywedodd ei bartner, Wendy, bod Mr Coleman yn "bleser i gael yn eich bywyd".
"Roedd adnabod Mike yn rhoi goleuni yn eich bywyd," meddai.
"Roedd yn aelod balch o'r Peirianwyr Brenhinol am 22 o flynyddoedd.
"Fe wnaeth Mike dreulio cyfnodau hir yn rhannu ei ddiddordeb mewn ffotograffiaeth natur gyda gweddill y byd ar y we."
Cafodd gyrrwr y lori ei arestio a'i ryddhau ar fechnïaeth wedi'r gwrthdrawiad, ac mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth.
Dylai unrhyw un welodd y lori yn gyrru cyn y digwyddiad ffonio 101.