Ceidwadwyr: Addewid cronfa ganser wedi'r etholiad
- Cyhoeddwyd

Fe fydd cronfa benodol i gleifion canser yn cael ei sefydlu yng Nghymru os yw'r Ceidwadwyr yn ennill grym yn etholiad yynulliad y flwyddyn nesaf
Fe fyddai'r addewid yn golygu clustnodi £16.5m o gyllideb iechyd Llywodraeth Cymru i'r hyn mae'r Ceidwadwyr yn ei ddisgrifio fel modd o gynnig cyfle gwell i gleifion dderbyn y cyffuriau canser diweddaraf.
Mae'r Ceidwadwyr hefyd yn addo sefydlu gwasanaeth triniaethau canser symudol er mwyn lleihau amseroedd teithio cleifion i glinigau neu driniaethau cemotherapi.
Mae'r Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford wedi gwrthod galwadau i sefydlu cronfa o'r fath, gan ddweud ei fod yn annheg blaenoriaethu cleifion canser o flaen eraill.
Erbyn 2020 mae'r Ceidwadwyr hefyd yn addo lleihau amseroedd aros ar gyfer diagnosis canser i 28 niwrnod.
Dros y blynyddoedd diwethaf mae 'na ddadlau ffyrnig wedi bod ynglŷn ag os dylai Llywodraeth Cymru efelychu Llywodraeth y DU a chyflwyno Cronfa Gyffuriau Canser.
Gwerth am arian
Yn Lloegr mae miliynau o bunnau o'r gyllideb iechyd wedi ei wario ar feddyginiaethau sydd ddim wedi cael eu cymeradwyo, er mwyn eu defnyddio ar y gwasanaeth iechyd yn gyffredinol.
Yn aml mae'r cyffuriau hyn wedi cael ei gwrthod ar sail gwerth am arian.
Yng Nghymru, mae'r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford yn gyson wedi gwrthod creu cronfa debyg - gan ddadlau bod y gronfa yn annheg ac anfoesol oherwydd bod cleifion ag un afiechyd yn cael blaenoriaeth dros gleifion ag afiechydon eraill.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn dadlau bod meddygon ar y cyfan yn gwrthwynebu'r egwyddor, ac y byddai sefydlu cronfa yn niweidio safon y gwasanaethau canser yma.
Mae elusennau fel y Gymdeithas MS a'r Ymddiriedolaeth Ffibrosis Cystig hefyd wedi dweud wrth BBC Cymru y dylai pob claf sydd angen triniaethau newydd neu arbenigol gael eu trin yn gyfartal - beth bynnag yw eu hanhwylder.
Ond er hynny mae'r ddau sefydliad am weld gwelliannau yn y broses o gymeradwyo meddyginiaethau a thriniaethau newydd yng Nghymru.
Mae nifer o gleifion canser ac ymgyrchwyr wedi dadlau bod absenoldeb cronfa gyffuriau yng Nghymru yn amddifadu cleifion o'r cyfle i gael triniaethau allai ymestyn eu bywydau.
Y llynedd arwyddodd 100,000 o bobl ddeiseb yn galw am sefydlu cronfa gyffuriau canser yng Nghymru.