Achos glendid dŵr Llanelli gam yn nes
- Cyhoeddwyd

Wrth i Dŵr Cymru gyhoeddi eu helw am y 6 mis diwethaf, mae achos llys sy'n ymwneud â charthion yn cael eu gollwng i'r môr ger Llanelli gam yn nes.
Yn ôl y cwmni, maen nhw wedi gwario £15m i wahanu dŵr glaw oddi wrth garthion mewn rhai ardaloedd yn Llanelli ers 2012, a bydd dros £50m miliwn arall yn cael ei wario erbyn 2020.
Mae 68 pibell wastraff yn ardal Llanelli a Thre-gŵyr, gyda 14 yn tywallt y gwastraff yn uniongyrchol i'r môr ac aber afon Llwchwr yn ystod glaw mawr.
Wedi blynyddoedd o asesu, mae'r Comisiwn Ewropeaidd yn dwyn achos cyfreithiol yn erbyn Llywodraeth Prydain ar sail dŵr gwastraff sydd heb di drin yn ddigonol ac yn effeithio'r glannau yng Nghymru ac 17 lleoliad arall ym Mhrydain.
Cwyno am garthion
Ers blynyddoedd, mae pobl sy'n byw yn Llanelli a'r pentrefi cyfagos wedi cwyno am effaith carthion yn ystod llifogydd, gan fod yr hen systemau yn dyddio nôl i gyfnod Fictoraidd.
Un sydd wedi cwyno am y problemau yw'r Cynghorydd Bill Thomas, sy'n dweud bod problem wedi bod erioed.
"Mae'r carthion wedi dod lan yn y dre, yn y farced, mae e wedi dod lan yn Arfryn Avenue. Wythnos diwetha, fe ddaeth e lan yn Trimsaran," meddai.
"Nid problem i Lanelli yn unig yw hon, mae'n broblem ym mhobman."
Canlyniadau Dŵr Cymru
- Fe wnaeth y cwmni fuddsoddi £123m mewn gwasanaethau dros y chwe mis diwethaf;
- Elw sylfaenol y cwmni oedd £25m, gafodd ei ail-fuddsoddi;
- Yn ôl y Sefydliad Gwasanaethau Cwsmeriaid, Dŵr Cymru yw'r gorau o ran boddhad cwsmeriaid.
Iechyd y cyhoedd
Mae'r carthion yn y môr, meddai pysgotwyr cocos, wedi effeithio ar bysgod, a tharfu ar lendid y traethau lleol.
Ond mae Dŵr Cymru yn dweud nad oes cysylltiad gyda dŵr gwastraff.
Mae gan Dŵr Cymru dros 18,000 o filltiroedd o bibellau gwastraff i'w gwarchod, a thua 800 o weithfeydd trin carthion, ac mae'r cwmni yn dweud eu bod yn cydymffurfio â'r gyfraith wrth wagio dŵr gwastraff i'r môr.
Wrth ymateb i'r cwynion, mae Steve Wilson, Cyfarwyddwr Gwastraff Dŵr Cymru yn dweud mai iechyd y cyhoedd ydy'r flaenoriaeth.
"Y peth diwetha' ry' ni eisiau ei weld yw carthion a dŵr glaw yn llifo i gartrefi pobl gan achosi llifogydd, felly mae yna reswm da pam maen nhw pibellau yno
"Ein gwaith ni yw ceisio gostwng pa mor aml y maen nhw'n gweithio, a gwneud hynny mewn ffordd gynaliadwy."
Mae Cynllun Glawlif Dŵr Cymru yn un dull o wahanu y dŵr a ddaw oddi ar ein tai a'r ffyrdd a sy'n diferu i lawr i'r draeniau.
Ar rai o strydoedd Llanelli, mae gerddi a mannau gyda phlanhigion a llwyni yn amsugno'r dŵr yn araf.
'Angen gwneud mwy'
Ond mae'n debyg nad yw'r broblem yn Llanelli wedi ei datrys.
Yn ôl aelod seneddol yr ardal Nia Griffith, mae mwy o bwysau wrth i ragor o dai gael eu hadeiladu.
Dywedodd: "Fe fyddwn i wedi hoffi gweld lot mwy o waith ganddyn nhw cyn nawr, achos maen nhw wedi gwybod bod yr achos yn y Comisiwn ers blynyddoedd, a beth dwi'n gweld yw bod Cyfoeth Naturiol Cymru ddim yn neud digon i gyfyngu ar y datblygiad.
Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru "yw un o'r cwmniau mwyaf yr ydym yn eu rheoleiddio, ac rydym yn disgwyl yr un safonau uchel ganddyn nhw ag unrhyw gwmni arall".
Ers Ebrill 2013, mae Dŵr Cymru wedi eu herlyn 10 o weithiau, yn bennaf gydag achosion o lygredd mewn afonydd yn y gogledd.
Er hynny, mae achos y Comisiwn Ewropeaidd ar lendid dŵr ger glannau Llanelli, Penrhyn Gŵyr a Phorth Tywyn ar fin cael gwrandawiad yn Llys Cyfiawnder Ewrop.
Os dyfernir bod y gyfraith yn cael ei thorri gan Lywodraeth Prydain, yna fe allai fod yna ddirwyon i'w talu gan yr awdurdodau yng Nghymru.