Agor canolfan siopa gyda'r nod o adfywio canol Casnewydd
- Cyhoeddwyd

Mae canolfan siopa newydd gwerth£100 miliwn yn agor ynghanol Casnewydd.
Mae datblygiad Friars Walk yn cynnig 390,000 troedfedd sgwâr o siopau sy'n cynnwys siop adrannol mawr, 35 o unedau gwahanol, 11 o fwytai, sinema wyth sgrin a 350 o lefydd parcio.
Cafodd 1,200 o swyddi eu creu yn y ganolfan sydd ar sgwâr John Frost - yn agos at Amgueddfa a Llyfrgell y ddinas, Canolfan Casnewydd a Theatr Glanyrafon.
Mae'r datblygwyr - cwmni Queensberry - yn dweud bod dros 855 o'r unedau wedi'i llenwi wrth i'r ganolfan agor ei drysau i'r cyhoedd.
Mae agor y ganolfan wedi bod yn broses hir. Cafodd cynllun gwreiddiol i ailddatblygu'r safle ei ollwng nôl yn 2009, wrth i'r datblygwyr dynnu nôl.
Yn ôl Huw Thomas, un o gyfarwyddwyr asiantaethau Cooke and Arkwright, sydd wedi bod yn ceisio denu siopau i'r ganolfan, roedd yn rhaid perswadio cwmnïau yn ôl i'r ddinas.
"Y broblem sydd wedi bod gyda Chasnewydd dros y 10 neu 15 mlynedd diwethaf yw bod canol y ddinas wedi dirywio, a bod lot o siopau mawr wedi dewis gadael," meddai Mr Thomas.
"Mae lot o drafodaethau wedi bod yn digwydd gyda siopau mawr i'w perswadio nhw, ac i egluro iddyn nhw beth oedd syniad y datblygiad - y ffaith ei fod yn digwydd yng nghanol y ddinas - a dros amser roedd y siopau yn deall beth oedd y bwriad ac wedi cytuno i'r telerau."
Catalydd pwysig
Ar ôl i'r cynllun gwreiddiol fynd i'r wal, fe gynigiodd Cyngor Casnewydd fenthyciad o hyd at£90 miliwn i'r datblygwyr.
"Mae Friars Walk yn gatalydd pwysig iawn i ni ar gyfer adfywio canol y ddinas," meddai pennaeth cyllid Cyngor Casnewydd, Meirion Rushworth.
"Un pishyn mawr o ddarlun adfywio mwy, er mwyn darparu cartrefi, busnesau a swyddi newydd."
Ond yn ôl yr uwch ddarlithydd busnes a marchnata gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Llyr Roberts, mae tipyn o her yn wynebu'r ganolfan siopa newydd:
"Mae'n frwydr anodd iawn i Gasnewydd - mae'n brwydro gyda chanolfan siopa Dewi Sant yng Nghaerdydd a Cabot's Circus ym Mryste.
"Dros y blynyddoedd diwetha', mae'r bobl yng Nghasnewydd a'r cymoedd cyfagos wedi mynd i'r arfer o fynd i Gaerdydd neu Fryste.
"Yr her ydy cael pobl yn ôl i'r arfer a rhoi rheswm iddyn nhw ddod nôl i ganol Casnewydd."