Pryder am ddyfodol swyddi Cyllid a Thollau yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Cyllid a ThollauFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae yna bryderon am ddyfodol cannoedd o swyddi mewn swyddfeydd trethi yng Nghymru.

Mae disgwyl i adran Cyllid a Thollau Ei Mawrhyd hysbysu staff yng Nghaerdydd, Abertawe, Wrecsam a Phorthmadog o'r manylion ddydd Iau.

Mae llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, Rhun ap Iorwerth wedi galw am eglurhad brys, wedi dyfalu y gallai gwasanaethau gael eu canoli yng Nghaerdydd.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyllid a Thollau Ei Mawrhydu:

"Yfory (dydd Iau) byddwn yn hysbysu'n staff o'n cyfeiriad yn y dyfodol."

"Rydym wedi ei gwneud hi'n glir ers peth amser y bydd hyn yn arwain at lai o swyddfeydd, ond y bydd y swyddfeydd yn fwy ac yn fwy modern, er mwyn ein galluogi ni i ddarparu gwell gwasanaethau i'n cwsmeriaid ac ennill mwy o gyllid treth o wasanaethau cyhoeddus."

"Mae'r newidiadau hyn yn rhan o raglen foderneiddio ddechreuodd sawl blwyddyn yn ôl a fydd yn digwydd dros y ddegawd nesaf. "

'Ergyd drom'

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,
Mae yna ddyfalu y gallai gwasanaethau Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi gael eu canoli yng Nghaerdydd

Dywedodd Mr ap Iorwerth y byddai cau swyddfeydd "yn ergyd i economi Cymru".

"Rhaid i Lywodraeth Prydain egluro ar frys a yw'r sïon am gau swyddfeydd yn wir."

"Dros y degawd diwethaf, mae Llywodraethau Prydain wedi bod yn benderfynol o gau swyddfeydd trethi, a byddai cau rhagor yn dystiolaeth o fethiant llwyr y llywodraeth bresennol i ddeall Cymru."

"Mae cannoedd o bobl yn gweithio yn y swyddfeydd yn Wrecsam, Porthmadog ac Abertawe, a byddai'n afrealistig ac yn anghynaliadwy disgwyl iddyn nhw symud i Gaerdydd - byddai hyn yn ergyd drom i economïau'r ardaloedd gwahanol ac i Gymru'n gyffredinol."