Gwynedd: Cau rhagor o lwybrau cyhoeddus?
Bryn Jones
Manylu, BBC Radio Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae llwybrau cyhoeddus yn cau nadcyngor sir yn cadw at ei dyletswyddau statudol i'w cadw'n agored, yn ôl cynghorydd o Wynedd.
mae rhybudd bydd mwy yn cau yn y dyfodol wrth i adran hawliau tramwy'r cyngor wynebu toriadau. Yn l cyn-bennaeth yr adran dim ond tri aelod o staff fyddai'n gyfrifol am cilomedr o lwybrau - ' gymharu efo 15 aelod o staff ddegawd yn l.
Mae Llwybr Arfordir Cymru yn boblogaidd gyda cherddwyr oherwydd y golygfeydd trawiadol. Ond mae rhan o'r llwybr ger Nefyn, Pen Llŷn, wedi cau ers sawl blwyddyn oherwydd erydu - ac mae pryderon bod rhan arall o'r llwybr ar fin cau.
Dywed cynghorydd yr ardal bod swyddogion wedi methu yn eu dyletswyddau i gadw'r llwybr yn agored. Yn lle defnyddio eu hawl i symud y llwybr a'i gadw mor agos at y clogwyn sy'n ddiogel, mae nhw wedi dargyfeirio ar hyd lôn tarmac bellter i ffwrdd o'r golygfeydd.
'Dyletswyddau statudol'
Dywedodd y Cyng Gruffydd Williams wrth raglen BBC Cymru Manylu: "Be dwi isho Cyngor Gwynedd neud ydi cadw at y dyletswyddau statudol sgeno nhw, mynd draw i'r tai a rhoi gorfodaeth rolio i fewn fel bod y llwybr yma unwaith yn rhagor yn cael ei defnyddio gan bobl leol ac ymwelwyr fel e gilydd.
"Fedra i ddim cael fy mhen rownd bod rhwyun yn y swyddfa yn fana wedi meddwl bod dim pwysigrwydd i'r llwybr yma - sef Llwybr Arfordirol Cymru a bod nhw'n fodlon arni yn cael ei arallgyfeirio ar ln hanner milltir o'r arfordir, heb ddim golygfeydd o Borthdinllan.
Wel mae o'n warthus bod nhw wedi cadw'r llwybr ar gau cyhyd. Faswn i'n dweud bod o'n amlwg dydi bod nhw ddim yn cymryd y rhan yma o'r byd o ddifri."
Ddeg mlynedd yn l roedd o bobl yn gweithio yn adran hawliau tramwy Cyngor Gwynedd, ac yn gyfrifol am 4000 cilomedr o lwybrau.
Gyda niferoedd staff yr uned wedi haneru erbyn heddiw, mae cyn-bennaeth yr adran yn rhybuddio yn erbyn cynlluniau i wneud mwy o doriadauwy o lwybrau au.
'Yn amhosib'
David Coleman mai dim ond tri aelod o staff fyddai ar l os ydi'r cyngor yn derbyn un o'r argymhellion mi mae'n amhosib gwneud y gwasanaeth o gwbwl.
Dyd nhw ddim yn son am dorri'r gwaith o gwbwl ond does dim ond adnoddau yno rwan i ynnal a chadw 40% orhwydwaithnd efo toriadau gwaeth mae nhw'n son am dwi ddim yn gweld bod posib gwneud llai na 20%."
Fel awdurdodau lleol ar draws Cymru, mae Cyngor Gwynedd yn gorfod gwneud arbedion. Ar hyn o bryd, mae nhw'n ymgynghori efo'r cyhoedd ynglŷn 'r opsiynau mae nhw wedi eu hargymell i wneud y £7m o arbedion - ac ymysg yr opsiynau mae torri £330,000 yn yr uned hawliau tramwy.
Y cynghorydd Dafydd Meurig ydi'r aelod cabinet ar y cyngor sy'n gyfrifol am yr adran hawliau tramwy.
Mae o'n cydnabod y byddai mwy o doriadau yn gwaethygu'r sefyllfa - ond bod rhaid torri nl yn rhywle.
Meddai: "Mi fydd hi yn anoddach. Hynny ydi mae'n rhaid gwneud toriadau mewn sawl maes. Os yda ni'n gwneud toriadau yn maes hawliau tramwy, ydi mae hynny'n golygu bod hi'n mynd i fod yn anoddach.
Yn yr run modd os yda ni'n gwneud y toriadau rheiny ym maes trafnidiaeth ella fydd cyflwr ffyrdd yn mynd yn waeth. Yda ni'n gwneud y toriadau mewn addysgu, gofal gwasanaethau gofal cymdeithasol, gwaith ieuenctid...lle yda ni'n gwneud y toriadau?
Dyna pam ryda ni eisiau gwybod beth ydi blaenoriaethau pobol Gwynedd a dyna pam mae'n bwysig eu bod nhw'n cymryd rhan yn y broses ymgynghori."
Manylu, BBC Radio Cymru, dydd Iau 11 , 1232; ail-ddarllediad dydd Sul 15 , 1332