Awn i ail Adfer bro...
- Cyhoeddwyd

"Beth yw Adfer? Adfer yw'r chwyldro."
Dyma eiriau Emyr Llywelyn, sylfaenydd un o'r mudiadau mwyaf lliwgar yn hanes yr ymgyrch i ddiogelu'r iaith Gymraeg.
Ond gydag eleni yn nodi 40 mlynedd ers rhyddhau record hir amlgyfrannog 'Lleisiau' gan Adfer, pa mor chwyldroadol oedd y mudiad mewn gwirionedd?
Gwlad y gân
Roedd cerddoriaeth a gwleidyddiaeth yn mynd law yn llaw yng Nghymru yn ystod yr 1970au.
Dywedodd y cerddor a'r darlithydd Pwyll ap Siôn yn ei thesis, 'Yn Y Fro: Mudiad Adfer a'r Canu Pop Cymraeg yn ystod y 1970au', mai dyma sut oedd llawer o bobl yn rhannu eu hideoleg bryd hynny.
Dyma pam roedd llawer o gefnogwyr y mudiad yn barod iawn i ganu ar 'Lleisiau'. Ond doedd ideoleg Adfer ddim yn gorwedd yn gyfforddus gyda rhai.
"Dehonglai rhai yn rhethreg Adfer ymgais i greu math o 'hil bur' o Gymry," ysgrifennodd Pwyll ap Siôn.
Nod Adfer oedd cael Cymru gwbl Gymreig a Chymraeg, ac roedd amryw yn gweld yr ymgyrch fel un gwrth-Seisnig yn hytrach nag un 'pro-Cymraeg'.
Cwmni oedd Adfer ar y dechrau, a gafodd ei sefydlu yn 1970 gyda'r bwriad o brynu a datblygu adeiladau er mwyn eu gwerthu neu eu rhentu fel tai i Gymry yn y 'cadarnleoedd' Cymraeg.
Ieuan Wyn oedd un o aelodau cyntaf a mwyaf blaenllaw'r cwmni: "Mi dyfodd mudiad Adfer o'r penwythnosa' gwaith mewn gwirionedd.
"Roedd 'na lot o bobl yn rhoi eu hamser hamdden, lot o grefftwyr a myfyrwyr. Roedd Mici Plwm yn drydanwr er enghraifft, ac mi oedd na ambell i saer coed a saer maen. Ond roeddan ni hefyd yn benthyg lot o arian i bobl oedd yn sefydlu busnesau."
Roedd Dewi 'Pws' Morris yn un o'r artistiaid gyfrannodd ar 'Lleisiau' gyda'r gân 'Cymer Ddŵr, Halen a Thân'.
Dechreuodd yntau weithio yn y gwersylloedd gwaith ac mae'n cofio dylanwad cynnar Emyr 'Llew': "Fe oedd yn arwain, roedd gandde fe lot o charisma.
"O'dd e'n neud areithie trwm ac o'dd pawb yn ei ddilyn e. O'n i'n ifanc ac o'dd Emyr Llew yn codi'n hysbryd ni."
Mae'n cofio cael "trwyn coch" gan cwpl o fois yn Nhregaron tra'n gweithio ar ail-adeiladu tai, ond doedd hynny ddim i wneud o reidrwydd â safbwyntiau Adfer.
Roedd Dewi Pws - a oedd yn wreiddiol o Abertawe - yn gefnogol o Adfer, ac roedd o hefyd yn chwilio am fywyd gwell yn y gorllewin. Mae bellach wedi ymgartrefu yn Nefyn, sydd fel byw "mewn gwlad y bydde Emyr Llew wedi ei ragweld, llwyth o Gymraeg - Shangri-La math o le".
Twf 'naturiol ac organig'
"Oedd 'na amryw ohona ni yn teimlo bod angen cael mudiad fydda'n rhoi ei holl amsar a'i hegni i warchod y fro Gymraeg," meddai Ieuan Wyn.
"Do'dda ni ddim yn teimlo bod o'n ddigon cael rhyw is-bwyllgor a grŵp o fewn mudiadau erill achos fod yr ardaloedd Cymraeg mor allweddol i barhad yr iaith ym mhob man."
Fe dyfodd y cwmni, ac yn fuan roedd hi'n cael ei hadnabod fel Mudiad Adfer.
"Ein bwriad ni oedd creu corff o bolisïau ar gyfer gwarchod a chryfhau'r Gymraeg fel iaith gymdeithasol, gymunedol," ychwanegodd Ieuan Wyn. "O'dda ni'n gweld fod dwyieithrwydd anghytbwys yn tueddu i danseilio'r Gymraeg oherwydd roedd Saesneg yn ca'l y flaenoriaeth pob gafael.
"Roedd Adfer wedi tyfu'n naturiol ac yn organig o'r bobl oedd yn ymwneud â'r cwmni, a'r gwersylloedd gwaith.
"O'dd rhaid cael cyd-destunau cwbl Gymraeg, fel yr Eisteddfod [Genedlaethol] a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol er enghraifft, a chael cymdeithasau lleol cwbl Gymraeg. Os nad oedd gen ti 'gyfanrwydd diwylliannol' yna ma'r Saesneg yn mynd i feddiannu pob gafael."
Ond nid pawb oedd yn cytuno gyda'r ffordd yr oedd Adfer yn mynd o'i chwmpas hi.
Mae'r gweinidog Rhys Llwyd wedi gwneud gwaith ymchwil ar y cenedlaetholwr R. Tudur Jones ac am ffrae danbaid gododd yn y '70au.
"Yn dilyn cyhoeddi cyfrol Emyr Llywelyn 'Adfer a'r Fro Gymraeg' yn 1976 fe wnaeth R. Tudur Jones gyhoeddi adolygiad ohoni yn y Tafod dan y teitl ymfflamychol 'Cysgod Y Swastika'," meddai.
"Bwriad R. Tudur Jones oedd amlygu rhai o ddylanwadau athronyddol Adfer a oedd yn eu hystyried yn amheus o'i safbwynt e' fel Cristion.
"Roedd e'n dadlau fod dylanwadau athronyddol Adfer yn debyg i darddiad athronyddol y Natsïaid. Fel ysgolhaig disglair oedd yn darllen yn eang cyflwynodd R. Tudur Jones ei ddadl yn glir.
"Ond wrth edrych nôl mae rhywun yn gwingo wrth ddarllen yr adolygiad gan ei fod, o bosib, wedi defnyddio gordd i agor cneuen ac yn y broses wedi gwaethygu rhwyg boenus yn y mudiad cenedlaethol.
"Mae'n ddiddorol nodi fod R. Tudur Jones, rai blynyddoedd wedyn, yn edifar am beth o'i feirniadaeth o Adfer."
Mewn ymateb i gais i gyfieithu ei adolygiadau i'w gynnwys mewn pecyn addysgol am hunaniaeth Gymreig yn yr 1980au, fe ddywedodd R. Tudur Jones: "I am not sure whether I am happy to see this old controversy revived. My two articles all but destroyed Emyr Llywelyn - and it certainly put paid to Adfer.
"I regret now that I did not make it clearer at the time that many of the practical aims of Adfer were laudable enough and that what I objected to was the attempt to justify its actions by a pernicious philosophy."
Adfer yn arloesi?
Ond yn ôl Ieuan Wyn, roedd y mudiad o flaen ei hamser.
"Fedri di ddim cychwyn diogelu'r Gymraeg os na fedri di atal dirywiad y nifer, a'r canrannau, o siaradwyr Cymraeg yn y cymunedau unigol. A dydan ni heb lwyddo mewn gwirionedd," meddai.
"Mae mwy yn sylweddoli heddiw y dylai 'na fwy o bwyslais wedi bod ar yr agweddau yna - neu mae'n bosib iawn y galla ni fod mewn sefyllfa gryfach heddiw. Mae rhai pobl yn sylweddoli pa mor beryglus ydi cael dwyieithrwydd ansefydlog.
"Gweledigaeth gymdeithasol ydi hi yn y bôn. Dyna ydi iaith a dyna ydi diwylliant, ac os na ydi o'n cael ei warchod ar lawr gwlad, mewn cymunedau naturiol felly, sut arall fedri di lwyddo?"
Effaith hirdymor y mudiad
Daeth Adfer i ben i bob pwrpas yn 1986, ond aeth nifer o'r aelodau yn eu blaenau i fod yn aelodau o Cymuned a Cylch yr Iaith, tra bod Ieuan Wyn ac Emyr Llywelyn yn parhau i weithio ar gylchgrawn 'Y Faner Newydd'.
Ond a oedd y mudiad yn llwyddiant o edrych yn ôl?
"Mae mwy o bobl heddiw yn sylweddoli pa mor fregus ydi'r cymunedau Cymraeg, a hefyd mae 'na sylweddoliad pa mor allweddol ydyn nhw i barhad y Gymraeg ym mhob man," meddai Ieuan Wyn. "Mae'r sylweddoliad yna yn bendant.
"Bosib iawn [fod Adfer] wedi dŵad i ben yn naturiol achos erbyn hynny roedd 'na lawer iawn o'r hyn oeddan ni'n arddel fel syniadau yn araf bach yn cael eu mabwysiadu gan fudiadau erill.
"Ond yn y bon, parhâd ac adferiad yr iaith yn y fro Gymraeg yw'r hanfod, ac yn fan'na ma'r echel yn troi o hyd."