Gofal diwedd bywyd '24/7 yng Nghymru', medd adroddiad
- Cyhoeddwyd

Cymru yw'r "unig wlad yn y DU" sy'n cynnal gwasanaeth 24 awr i bobl sy'n dod at ddiwedd eu bywyd, yn ôl adroddiad gan Lywodraeth Cymru.
Mae adroddiad blynyddol y llywodraeth ar ofal lliniarol yn dweud fod arbenigwr ar gael i gleifion bob awr o'r dydd mewn ysbytai a hosbisau.
Yn ôl y ddogfen, mae'r cyhoedd yn hapus iawn gyda'r gwasanaeth, sydd wedi derbyn sgôr cyfartalog o 9.5 allan o 10 mewn asesiad o brofiadau cleifion a'u teuluoedd.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Vaughan Gething bod y llywodraeth "yn gwireddu ein huchelgais o gynnig gofal safonol ac ystyriol i bobl ble bynnag maen nhw'n byw."
'Galw aruthrol'
Mae'r adroddiad hefyd yn dangos bod cynnydd o 15.7% wedi bod yn y flwyddyn ddiwethaf yn y nifer o bobl sydd ar y gofrestr gofal lliniarol sylfaenol.
Yn ogystal, mae'r ganran o bobl sy'n marw yn yr ysbyty wedi disgyn o 62.6% yn 2008-09 i 56.2% yn 2014-15.
Dywedodd Mr Gething bod "galw aruthrol" am wasanaethau'r llywodraeth, ond ychwanegodd fod mwy o waith i'w wneud.
Mae eu hamcanion dros y 12 mis nesaf yn cynnwys lleihau'r nifer sy'n cael eu gyrru i'r ysbyty'n ddiangen ar ddiwedd ei bywyd, a galluogi mwy o bobl i dderbyn gofal a marw mewn lleoliad o'u dewis.