Gwrthdrawiad Caerdydd: Enwi dyn fu farw
- Cyhoeddwyd

Mae dyn fu farw mewn gwrthdrawiad yn yr Eglwys Newydd, gogledd Caerdydd, wedi cael ei enwi.
Roedd Terrence Morgan yn 75 oed ac yn byw'n lleol.
Cafodd Mr Morgan ei daro gan gar tra'n cerdded ar Heol y Parc tua 16:00 ar 11 Tachwedd. Bu farw yn hwyrach yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd.
Mae gyrrwr y car Daihatsu Charade arian yn helpu'r heddlu gyda'r ymchwiliad.