Symud uned famolaeth Bangor: 'Gwallgofrwydd llwyr'

  • Cyhoeddwyd
cyfarfod cyhoeddus
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd dyfodol yr uned famolaeth ei drafod mewn cyfarfod cyhoeddus nos Iau

Mae cyn-feddyg blaenllaw yn dweud y byddai'n "wallgofrwydd llwyr" symud meddygon arbenigol o'r uned famolaeth yn Ysbyty Gwynedd.

Yn ôl Peter Tivy-Jones, byddai'r newidiadau'n gwneud geni plentyn yn yr ysbyty "yn fwy peryglus".

Daw ei sylwadau wrth i adolygiad ystyried dyfodol tymor hir gwasanaethau mamolaeth ar draws y gogledd.

Mae rhai'n ofni y gallai newidiadau olygu fod menywod yn gorfod teithio dros awr i roi genedigaeth yn Ysbyty Glan Clwyd.

Roedd dros 50 mewn cyfarfod cyhoeddus i drafod y mater ym Mangor nos Iau.

'Mwy o ddisgwyl'

Dywedodd Mr Tivy-Jones, sy'n gyn-gyfarwyddwr Gwasanaethau Merched a Theulu yn Ysbyty Gwynedd wrth Newyddion 9, y byddai merched yn gorfod disgwyl mwy i gael gofal arbenigol.

"Gorau bo gyntaf y mae claf yn cyrraedd yr ysbyty, rhag ofn fod problem gyda'r enedigaeth," meddai.

"Allwn ni ddim dweud fod genedigaeth yn normal tan ei bod wedi gorffen. Os yw'r claf yn disgwyl am arbenigwr am amser hir, mae'n fwy peryglus."

Ychwanegodd ei fod yn pryderu mwy am ddyfodol yr uned ym Mangor nac unedau eraill yn y gogledd, oherwydd y penderfyniad i leoli uned gofal dwys i fabanod yn Ysbyty Glan Clwyd.

Gwnaed y penderfyniad hwnnw ar sail cyngor Coleg Brenhinol Obstetryddion a Gynecolegwyr, sy'n cydweithio gyda Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ar yr adolygiad presennol.

Prinder staff

Yn y cyfarfod cyhoeddus nos Iau, dywedodd Dr Glynne Roberts, Rheolwr Gwasanaethau Merched y bwrdd iechyd, fod diffyg meddygon yn broblem fawr.

"Rydym wedi gofyn i'r Coleg Brenhinol asesu faint o staff fydd ar gael yn y dyfodol," meddai.

"Os ydyn nhw'n dweud nad ydyn nhw'n credu y bydd y doctoriaid sy' dan hyfforddiant nawr ar gael i ni, wedyn yn amlwg mi fyddai rhaid i ni ystyried ail-drefnu'n gwasanaethau.

"Y peth pwysicaf i ni ydi bod ein gwasanaethau yn ddiogel ac yn gynaladwy, fel bod gwasanaethau yn gweithio'n iawn pan fo cleifion yn cyrraedd yr ysbyty."

'Bygwth mamau a phlant'

Yn y cyfarfod, rhybuddiodd Aelod Cynulliad y Ceidwadwyr, Janet Haworth, y buasai'r newidiadau'n "bygwth mamau a phlant."

Gan gyfeiro at ei phrofiad o ofal yr uned, dywedodd: "Heb y meddygon yma, buaswn i ddim yma, buasai fy mhlentyn ddim yma."

Dywedodd Huw Thomas, cyn-bennaeth Awdurdod Iechyd Gwynedd, fod y bwrdd iechyd "mewn sefyllfa anodd iawn".

"Rydyn ni'n meddwl ei bod hi'n debygol y bydd y Coleg Brenhinol Obstetryddion a Gynecolegwyr yn argymell cael dwy uned dan ofal arbenigwyr, ac un dan ofal bydwragedd," meddai.

"Os yw'r uned obstetryddol a gynecolegol yn gadael yr ysbyty, gall gwasanaethau eraill fynd hefyd."