Dyn ar goll yn y môr: Pryderon di-sail
- Cyhoeddwyd

Wedi i fadau achub a hofrennydd achub chwilio am ddyn oedd wedi'i weld yn mynd i mewn i'r môr yng Nghastell-nedd Port Talbot, mae gwylwyr y glannau yn dweud bod y pryderon yn ddi-sail.
Fe wnaeth gwylwyr y glannau Aberdaugleddau ddechrau chwilio am 19:40 nos Iau wedi i gwpwl ddweud bod dyn wedi mynd i mewn i'r dŵr ar draeth Aberafan.
Yn ddiweddarach fe wnaeth dyn gysylltu â'r heddlu yn dweud ei fod wedi gweld y badau achub yn chwilio, ac yn meddwl efallai mai amdano ef oedden nhw'n chwilio.
Fe wnaeth gwylwyr y glannau ddisgrifio'r digwyddiad fel "camrybudd gyda'r bwriad cywir".