Hinkley Point C: 'Busnesau Cymru i elwa' o'r atomfa
- Cyhoeddwyd

Fe all busnesau yng Nghymru elwa o adeiladu atomfa niwclear newydd yng Ngwlad yr Haf, meddai Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig.
Fe fydd Hinkley Point C yn costio £18bn gan greu 25,000 o swyddi.
Ond mae pryderon y gall hynny arwain at lai o weithwyr medrus ar gyfer gwaith adeiladu yn y dyfodol.
Ofn rhai adeiladwyr yw y bydd costau'n cynyddu wrth i weithwyr ennill cyflogau uwch yn Hinkley.
Dywedodd Helen Kane, cadeirydd bwrdd Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig Cymru, bod cwmnïau bach mewn safle i elwa.
"Rydym yn mynd mewn i un o gyfnodau mwyaf adeiladu Prydain ers y rhyfel, ac i bob pwrpas mae Hinkley Point ar ein stepen drws," meddai.
"Y broblem gyda'r bwlch sgiliau yn y Deyrnas Unedig yw ei fod ar ei uchaf ers 20 neu 30 o flynyddoedd. Mae 70% yn dweud bod prinder staff medrus.
"Mae yna ddewis eang o brifysgolion a cholegau yng Nghymru sy'n gweithio tuag at sicrhau bod ein holl gynlluniau - nid dim ond Hinkley, ond Wylfa, Lagŵn Bae Abertawe a gorsafoedd biomas yng ngorllewin Cymru - ar fin cael eu gweithredu ond mae angen gweithio gyda'n gilydd i wneud hynny."
'Anfanteision'
Ond mae'r adeiladwr Kevin Ireland o gwmni Eiddo Delta ym Mhenarth, Bro Morgannwg, yn amheus o brosiect Hinkley.
"Os nad ydych yn barod i roi eich hun rhywle yn y canol neu tuag at waelod y gadwyn, dw i ddim yn credu bod yna fanteision," meddai.
"Mae'n debygol y bydd mwy o anfanteision - mae gennym ni ddiffyg sgiliau yn y diwydiant adeiladu. Dim ond gwneud pethau'n waeth wneith hyn wrth i unigolion adael i ddilyn yr arian."